P-04-617 Stopiwch y Troslgwyddo Dilyffethair o Lyfrgelloedd Cyhoeddus i'r Sector Gwirfoddol

P-04-617 Stopiwch y Troslgwyddo Dilyffethair o Lyfrgelloedd Cyhoeddus i'r Sector Gwirfoddol

Rydym yn galw ar y Dirprwy Weinidog dros ddiwylliant i dderbyn, ar unwaith, argymhelliad III yn yr Adolygiad Arbenigol o Lyfrgelloedd Cyhoeddus yng Nghymru 2014 (Ni ddylid gweithredu newidiadau i wasanaethau llyfrgelloedd cyhoeddus cyn cynhyrchu dewisiadau wedi’u costio). Ar ben hynny, dylai’r Dirprwy Weinidog bellach fod yn cynghori pob awdurdod lleol yng Nghymru y bydd y gofyniad hwn yn effeithiol ar gyfer newidiadau arfaethedig a gyhoeddir ar ôl dyddiad cyhoeddi'r Adolygiad Arbenigol (22 Hydref 2014) a hefyd ar gyfer cynigion a gyhoeddwyd cyn y dyddiad hwnnw, lle mae ymgynghoriad cyhoeddus yn dod i ben ar ôl 22 Hydref 2014. Mae angen y camau hyn i atal y pentwr o gynigion gan Fro Morgannwg ac awdurdodau lleol eraill yng Nghymru i drosglwyddo ein llyfrgelloedd cyhoeddus i'r sector gwirfoddol heb roi ystyriaeth briodol i opsiynau eraill

 

Prif ddeisebydd:  Adam Riley - Save Rhoose Library

Ystyried am y tro cyntaf gan y Pwyllgor:

Nifer o llofnodion: 66

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 04/03/2015

Dogfennau