P-04-590 Cyllid ar gyfer gwasanaeth bws arfordirol y Cardi Bach
P-04-590 Cyllid ar gyfer gwasanaeth bws arfordirol y Cardi Bach
Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog
Llywodraeth Cymru i adfer y cyllid ar gyfer gwasanaeth bws arfordirol y Cardi
Bach yng Ngheredigion.
Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth
Cymru i adfer y cyllid ar gyfer gwasanaeth bws arfordirol y Cardi Bach yng
Ngheredigion.
Gwybodaeth
ychwanegol
Bydd gwasanaeth bws arfordirol y Cardi Bach, sy’n rhedeg
rhwng Aberteifi a Cheinewydd, yn dod i ben ar 30 Medi oherwydd diffyg cyllid.
Roedd y gwasanaeth yn derbyn rhywfaint o arian gan Lywodraeth Cymru o dan y
Cynllun Datblygu Gwledig 2007-2013.
Mae cynnydd amlwg wedi bod yn nifer yr ymwelwyr i’r ardal
hon, yn enwedig cerddwyr, ers agor Llwybr Arfordir Cymru yn 2012. Mae’r gwasanaeth
bws arfordirol wedi galluogi ymwelwyr i fynd i’r trefi a’r pentrefi ar hyd y
llwybr.
Mae’r gwasanaeth bws yn dod â chwsmeriaid i fusnesau
lleol.
Mae’n boblogaidd gyda cherddwyr ar Lwybr Arfordir Cymru,
gan ei fod yn eu galluogi i fwynhau teithiau cerdded llinellol.
Mae’n rhoi dewis arall i breswylwyr ac ymwelwyr, ar wahân
i’r car.
Bydd rhai ardaloedd gwledig, yn arbennig, yn dioddef
anghyfleustra os bydd y gwasanaeth bws yn dod i ben. Er enghraifft, mae Cwmtudu
yn bentref poblogaidd ar y llwybr yr arfordir, hanner ffordd rhwng Ceinewydd a
Llangrannog. Os bydd rhywun am gael bws o fan hyn, byddai’n rhaid iddo gerdded
4 milltir i’r llwybr bws agosaf. Byddai’n cael anhawster yn ffonio am dacsi gan
nad oes blwch ffôn cyhoeddus, a gan fod y signal ffôn symudol yn wael iawn–
Bydd gwasanaeth bws arfordirol y Cardi Bach, sy’n rhedeg rhwng Aberteifi a
Cheinewydd, yn dod i ben ar 30 Medi oherwydd diffyg cyllid. Roedd y gwasanaeth
yn derbyn rhywfaint o arian gan Lywodraeth Cymru o dan y Cynllun Datblygu
Gwledig 2007-2013.
Mae cynnydd amlwg wedi bod yn nifer yr ymwelwyr i’r ardal
hon, yn enwedig cerddwyr, ers agor Llwybr Arfordir Cymru yn 2012. Mae’r
gwasanaeth bws arfordirol wedi galluogi ymwelwyr i fynd i’r trefi a’r pentrefi
ar hyd y llwybr.
Mae’r gwasanaeth bws yn dod â chwsmeriaid i fusnesau
lleol.
Mae’n boblogaidd gyda cherddwyr ar Lwybr Arfordir Cymru,
gan ei fod yn eu galluogi i fwynhau teithiau cerdded llinellol.
Mae’n rhoi dewis arall i breswylwyr ac ymwelwyr, ar wahân
i’r car.
Bydd rhai ardaloedd gwledig, yn arbennig, yn dioddef
anghyfleustra os bydd y gwasanaeth bws yn dod i ben. Er enghraifft, mae Cwmtudu
yn bentref poblogaidd ar y llwybr yr arfordir, hanner ffordd rhwng Ceinewydd a
Llangrannog. Os bydd rhywun am gael bws o fan hyn, byddai’n rhaid iddo gerdded
4 milltir i’r llwybr bws agosaf. Byddai’n cael anhawster yn ffonio am dacsi gan
nad oes blwch ffôn cyhoeddus, a gan fod y signal ffôn symudol yn wael iawn
Prif
ddeisebydd Janet
Richardson
Ysytyriwyd
am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 23 Medi 2014
Nifer
y llofnodion: 1,084 llofnod
bapur a 121 a’r lein. Cyfanswm 1,205
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 17/09/2014