P-04-589 Lleihau Nifer y Cynghorwyr ac Aelodau Gweithredol yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent

P-04-589 Lleihau Nifer y Cynghorwyr ac Aelodau Gweithredol yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i roi cyfarwyddyd i’r Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i adolygu nifer y Cynghorwyr ac Aelodau Gweithredol yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent gyda’r bwriad o leihau eu niferoedd.

 

Gwybodaeth ychwanegol:

 

Mae gan Flaenau Gwent mwy o Gynghorwyr y pen o’r boblogaeth a mwy o Aelodau Gweithredol na Chynghorau cyfagos. Cyflwynodd Aelodau Annibynnol y cyngor gynnig i leihau nifer yr aelodau gweithredol i 6 neu 7. Gwrthododd y cyngor, o dan arweiniad Llafur, y cynnig hwn. Gallai’r arbedion hyn ailagor y toiledau lleol. Mae gan Flaenau Gwent 42 o gynghorwyr, 10 o aelodau gweithredol a phoblogaeth o 69,300, gan olygu bod 1 cynghorydd i bob 1,611 o bobl. Mae gan Ferthyr Tudful 33 o gynghorwyr, 7 o aelodau gweithredol a phoblogaeth o 58,800, gan olygu bod 1 cynghorydd i bob 1,781 o bobl. Mae gan Gaerffili 72 o gynghorwyr, 10 o aelodau gweithredol a phoblogaeth o 178,800, gan olygu bod 1 cynghorydd i bob 2,384 o bobl.

Mae gan bob Cynghorydd ym Mlaenau Gwent y gyfradd isaf yng Nghymru o ran nifer y cynghorwyr y pen o’r boblogaeth. Mae Cyngor Blaenau Gwent wedi diswyddo staff ym mhob rhan o’r cyngor ond nid yw’n barod i leihau nifer y cynghorwyr er ei fod yn amlwg bod ganddo fwy ohonynt nag sydd angen. A all Llywodraeth Cymru ymchwilio i’r mater hwn a gorfodi’r cyngor i leihau ei niferoedd er mwyn arbed arian a gwasanaethau ym Mlaenau Gwent?

 

Prif ddeisebydd   Julian price

 

Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 23 Medi 2014

 

Nifer y llofnodion:  34 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 17/09/2014