P-04-585 Newidiadau i gyffordd yr A494/A470 yn Nolgellau
P-04-585 Newidiadau i gyffordd yr A494/A470 yn Nolgellau
Yn ystod y chwe wythnos ers cwblhau’r newidiadau i
gyffordd yr A494/ A470 yn Nolgellau, cafwyd tair damwain ffordd ddifrifol,
lladdwyd dau, niweidiwyd dau’n ddifrifol a chafodd dau arall fân anafiadau. Mae
llawer o bobl leol wedi mynegi pryder ac, o gofio bod gwyliau’r haf ar fin
dechrau, ac y bydd traffig yn cynyddu yn y gyffordd hon, mae rhagor o
ddigwyddiadau o’r fath yn debygol. Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i
ystyried, fel mater o frys, newid y gyffordd hon cyn y caiff pobl eraill eu
lladd neu cyn i’w bywydau newid er gwaeth.
Gwybodaeth
ychwanegol:
Mae’r gyffordd hon wedi peri pryder erioed, ond ers y
newidiadau chwe wythnos yn ôl, mae pobl leol wedi bod yn gyndyn o’i defnyddio
ac maent yn ceisio’i hosgoi os oes modd. Mae’r marwolaethau a’r anafiadau’n
wastraff diangen a gellid achub bywydau pe bai system gliriach ar waith;
cylchfan fechan efallai neu arwyddion ychwanegol o leiaf, yn y tymor byr..
Prif
ddeisebydd: Kathryn White
Ysytyriwyd
am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 23 Medi 2014
Nifer
y llofnodion: 1,288 llofnod a’r lein a 1,581 llofnod papur. Cyfanswm
2,869
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 16/09/2014