P-04-583 Gwahardd Tyfu a Gwerthu unrhyw Hadau / Bwydydd a Phorthiant Anifeiliaid / Pysgod GM yng Nghymru

P-04-583 Gwahardd Tyfu a Gwerthu unrhyw Hadau / Bwydydd a Phorthiant Anifeiliaid / Pysgod GM yng Nghymru

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i sefydlu, cyn belled ag y mae hynny’n gyson â chyfraith yr UE, Ddeddf sy’n gwahardd unrhyw fwyd, planhigion a hadau GM rhag cael eu tyfu a’u gwerthu yng Nghymru, yn ogystal ag organebau a addaswyd yn enetig a ddefnyddir mewn unrhyw borthiant anifeiliaid, anifeiliaid hela a physgod. Mae sofraniaeth bwyd ac iechyd yn fater hollbwysig i ddyfodol Cymru a’r byd ac mae’n rhywbeth a fydd yn gwahaniaethu cynhyrchion bwyd o Gymru ymhellach, mewn ffordd gadarnhaol, yn y farchnad fyd-eang. Fel y dangoswyd gan y gwaith gwych a wnaed gan GM Free Cymru a gwyddonwyr allweddol fel Irina Ermakova, yr Athro Vyvyan Howard a Malcolm Hooper, Dr Stanley Ewen, Dr Arpad Pusztai, Manuela Malatesta a chydweithwyr ym Mhrifysgolion Pavia ac Urbino yn yr Eidal ymhlith rhai eraill, mae tystiolaeth ddiymwad ar gael erbyn hyn am beryglon cynhenid bwydydd GM.

 

Gwybodaeth ychwanegol:

 

Dywedodd Dr Brian John o GM Cymru: "Ymddengys fod y Comisiwn Ewropeaidd yn benderfynol o gyhoeddi un caniatâd GM dadleuol ar ôl y llall, gan seilio ei benderfyniadau ar waith ymchwil hynod ddewisol a rhagfarnllyd gan yr ymgeiswyr eu hunain, a chael arweiniad gan awdurdod diogelwch bwyd Ewropeaidd a ddirmygir ac sydd wedi colli hyder cyrff anllywodraethol a grwpiau defnyddwyr ledled Ewrop". Mae gwleidyddion yn hyrwyddo rhinweddau’r cwmnïau biotechnoleg mawr fel Monsanto er gwaethaf lleisiau cyhoeddus a gwyddonol croes arwyddocaol. Mae codi patent ar natur ac ymyrryd drwy beirianneg enetig hefyd yn weithred yn erbyn natur ei hun ac yn codi’r cwestiwn o ran moesoldeb, moeseg, hawliau naturiol a dynol. Mae nifer gynyddol o wledydd fel Hwngari, Awstria, Bwlgaria, Gwlad Groeg, Japan, y Swistir, y Basg a Periw, i enwi ond ychydig, bellach yn diarddel y cawr technoleg gemegol a biolegol Monsanto, ac yn cael gwared ar unrhyw gnydau, hadau, planhigion a bwydydd GM o’u gwlad.

 

Prif ddeisebydd : Cymru Sofren / Sovereign Wales

 

Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 23 Medi 2014

 

Nifer y llofnodion: 13

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 16/09/2014