P-04-581 Gwrthwynebu’r Toriadau yn y Ddarpariaeth ar gyfer Dysgwyr Saesneg fel Iaith Ychwanegol
P-04-581 Gwrthwynebu’r Toriadau yn y Ddarpariaeth ar gyfer Dysgwyr Saesneg fel Iaith Ychwanegol
Rydym ni, sydd wedi llofnodi isod, yn galw ar Gynulliad
Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i ailystyried y toriadau yn y
ddarpariaeth ar gyfer disgyblion sy’n dysgu Saesneg fel Iaith Ychwanegol mewn
ysgolion. Mae angen cyllid ychwanegol i atal disgyblion o gefndiroedd ethnig
lleiafrifol rhag cael eu gwthio i’r cyrion mewn ysgolion drwy ddarparu cymorth
arbenigol gyda’r nod o gynyddu safonau addysgol a sicrhau cyfle cyfartal i
bawb.
Mae’r gostyngiad yn y Grant Cyrhaeddiad Lleiafrifoedd
Ethnig yn cael effaith unigryw ar ddisgyblion lleiafrifoedd ethnig ar adeg pan
mae’r nifer fwyaf erioed o ddysgwyr Saesneg fel Iaith Ychwanegol yn ein
hysgolion. Mae’r diffyg ymgynghori wedi methu ag ystyried graddfa, cwmpas ac
effaith y cymorth hwn o ran unigolion, eu teuluoedd a llwyddiant yr ysgol
gyfan.
Prif
ddeisebydd : Helen Myers
Ysytyriwyd
am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 23 Medi 2014
Nifer
y llofnodion: 37
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 16/09/2014
Dogfennau