P-04-560 Gwasanaethau Clefyd Llid y Coluddyn yng Nghymru
P-04-560 Gwasanaethau Clefyd Llid y Coluddyn yng Nghymru
Rydym
ni sydd wedi llofnodi isod yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog
Llywodraeth Cymru i barhau gydai hymrwymiad i wella safonau triniaeth a
gofal ar gyfer pobl â Chlefyd Crohn a Llid Briwiol y Coluddyn drwy ddatblygu
cynllun cyflawni gastroenteroleg. Bydd hynnyn sicrhau bod y bobl âr
cyflyrau hyn yn cael gofal or safon uchaf lle bynnag y maent yng Nghymru.
Gwybodaeth ychwanegol
Mae
safon y gofal ar gyfer pobl â Chlefyd Crohn a Llid Briwiol y Coluddyn wedi
gwella yng Nghymru yn dilyn lansio Safonau ar gyfer Gofal Iechyd Pobl sydd â
Chlefyd Llid y Coluddyn yn y Cynulliad yn 2009. Fodd bynnag, mae archwiliad annibynnol
o ofal Clefyd Llid y Coluddyn wedi dangos nad ywr ansawdd wedi gwella mor
gyflym â gwledydd eraill yn y DU.
Felly,
mae angen annog gwelliant pellach drwy ddatblygu Cynllun Cyflawni
Gastroenteroleg a fydd yn mynd ir afael â gwahaniaethau a sicrhau bod
safonau sylfaenol yn cael eu bodloni yn ystod triniaethau.
Prif ddeisebydd: South Wales IBD Patient Panel
Ysytyriwyd am y tro
cyntaf gan y Pwyllgor:
17 Mehefin 2014
Nifer y llofnodion: 664
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 16/06/2014