P-04-558 GWAHARDD E-SIGARÉTS I BOBL IFANC O DAN 18 OED

P-04-558 GWAHARDD E-SIGARÉTS I BOBL IFANC O DAN 18 OED

Rydym ni, drigolion Cymru, sydd wedi llofnodi isod yn galw ar Lywodraeth Cymru i wahardd E-Sigaréts i bobl ifanc o dan 18 oed.

 

Mae E-sigaréts wedi dod yn hawdd i’w prynu mewn siopau neu orsafoedd petrol ac mae pobl ifanc o dan 18 oed yn mynd yn gaeth i nicotin. Credaf y bydd hyn yn creu mwy o smygwyr dan oed ac yn cynyddu nifer y smygwyr yng Nghymru.

 

Prif ddeisebydd:  Mohammed Sarul Islam

 

Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor:17 Mehefin 2014

 

Nifer y llofnodion: 11

 

Trafodwyd y ddeiseb hon gan y Pwyllgor ar 23 Chwefror 2016 o dan Eitem 4 ar yr Agenda – Deisebau y cynigir y dylid eu cau, a chytunodd i gau’r ddeiseb.

 

 

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 16/06/2014