P-04-549 Gwnewch ‘Hen Wlad Fy Nhadau’ yn Anthem Genedlaethol Swyddogol Cymru
P-04-549 Gwnewch ‘Hen Wlad Fy Nhadau’ yn Anthem Genedlaethol Swyddogol Cymru
Nodir
150 mlynedd ers cyfansoddi’r gân ‘Hen Wlad Fy Nhadau’ gan Evan a James James o
Bontypridd ym mis Ionawr 2016. Bydd can mlwyddiant canu Hen Wlad Fy Nhadau fel
anthem Cymru mewn digwyddiadau chwaraeon yn cael ei gofio ar 16 Rhagfyr 2015.
Am y tro cyntaf erioed ar y diwrnod hwnnw, canodd y chwaraewyr a’r dyrfa anthem
cyn i gêm ryngwladol gael ei chwarae. Daeth hwn yn draddodiad pwysig mewn
digwyddiadau chwaraeon rhyngwladol ledled y byd. Dechreuodd y cyfan ym Mharc yr
Arfau gynt, oherwydd bod Cymru eisiau lleddfu effaith yr haka enwog a
ddefnyddiwyd gan Seland Newydd. Daeth ‘Mae Hen Wlad Fy Nhadau’ yn gri yng
nghanol brwydr y maes rygbi ac enillwyd y gêm gennym, o 3 phwynt i 0. Bellach,
mae’n bryd gwneud y gri hon yn anthem genedlaethol swyddogol ar gyfer Cymru.
Prif
ddeisebydd:
Stuart
Evans
Ysytyriwyd
am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 29
Ebrill 2014
Nifer y llofnodion: 1012
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 27/10/2014