P-04-536 Rhoi’r Gorau i Ffatrioedd Ffermio Gwartheg Godro yng Nghymru

P-04-536 Rhoi’r Gorau i Ffatrioedd Ffermio Gwartheg Godro yng Nghymru

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i ddiweddaru Polisi Cynllunio Cymru a dogfennau cynllunio perthnasol eraill, fel Nodyn Cyngor Technegol 6: Cynllunio ar gyfer Cymunedau Gwledig Cynaliadwy, er mwyn sicrhau na chaiff ffermydd gwartheg godro dan do ar raddfa fawr eu creu er elw byrdymor ac, o bosibl, ar draul llawer o ffermydd bach. Wrth gymeradwyo’r fferm yn y Trallwng yn ddiweddar, cyfeiriodd Cyngor Sir Powys yn benodol at baragraff 7.2.2 o Bolisi Cynllunio Cymru gan ddweud ei fod yn "...(c)ydnabod y bydd y manteision economaidd weithiau’n gwrthbwyso’r ystyriaethau cymdeithasol ac amgylcheddol", ac rydym o’r farn y dylid adolygu hyn ar frys, gan na ddylai’r posibilrwydd o greu nifer fach o swyddi newydd wrthbwyso’r buddion economaidd hirdymor a ddaw yn sgîl pori, sy’n ased digonol, effeithlon a chynaliadwy, ac mae llawer o ffermwyr godro yng Nghymru yn cydnabod hynny’n llwyr.

 

Mae ffatrioedd ffermio gwartheg godro dan do ar raddfa fawr wedi’u cynllunio i gadw buchod dan do, yn hytrach nag allan ar dir pori, a gwelwyd enghreifftiau eisoes o sut y gallant gynyddu niwed i’r amgylchedd, gwneud y gymuned leol yn dlotach, effeithio’n ddifrifol ar les anifeiliaid a bod yn faich ariannol ar yr ardal gyfagos. Yn dilyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i gymeradwyo’r fferm yn y Trallwng, credwn ei bod yn hollbwysig cynnal adolygiad o ddeddfwriaeth gynllunio er mwyn sicrhau bod Cymru yn cyflawni ei dyhead i fod yn wlad wirioneddol gynaliadwy.

 

Prif ddeisebydd:  World Society for the Protection of Animals

 

Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 18 Chwefror 2014

 

Nifer y llofnodion: TBC

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 10/02/2014