P-04-528 Addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg ym mhob ysgol gynradd yng Nghymru
P-04-528 Addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg ym mhob ysgol gynradd yng Nghymru
Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol
Cymru i annog Llywodraeth Cymru i sicrhau bod pob ysgol gynradd yng Nghymru yn
addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Os ydym ni a Chynulliad Cymru yn wirioneddol
ymrwymedig i adfer yr iaith Gymraeg a chreu Cymru ddwyieithog, mae angen
gweithredu. Rwy’n cytuno nad oes modd gwneud hynny dros nos; mae materion fel
niferoedd athrawon a’r mater o’r cyfnod o drosi’r ysgolion o fod yn rhai
cyfrwng Saesneg i fod yn rhai cyfrwng Cymraeg. Mae Cynulliad Cymru wedi
pwysleisio pwysigrwydd cael cymunedau o siaradwyr Cymraeg. Bydd hynny ond yn
digwydd os bydd mwyafrif y plant sy’n gadael ysgol dros sawl cenhedlaeth yn
gallu siarad Cymraeg yn rhugl.
Prif ddeisebydd: Phillip Worth
Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 21 Ionawr 2014
Nifer y llofnodion: 13
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 13/01/2014