P-04-527 Ymgyrch i gael Cronfa Cyffuriau Canser Arbennig yng Nghymru
P-04-527 Ymgyrch i gael Cronfa Cyffuriau Canser Arbennig yng Nghymru
Un o drigolion
ein tref yw Beth Margetson ac mae clefyd ofnadwy wedi bwrw cysgod dros ei
bywyd, sef canser. Bydd canser yn effeithio ar un o bob tri ohonom rywbryd yn
ein bywydau. Bydd llawer yn goroesi, ond yn achos llawer, fel Beth, bydd y clefyd
yn gwaethygu, ac ni fyddant yn gallu cael gafael ar y triniaethau diweddaraf
nad ydynt wedi’u cymeradwyo gan NICE, er bod modd i gleifion yn Lloegr a’r
Alban gael gafael ar driniaeth drwy gronfa cyffuriau canser. Nid oes cronfa o’r
fath ar gael yng Nghymru, ac eto rhoddir dros 74 miliwn o bresgripsiynau am
ddim yn y wlad bob blwyddyn, sy’n costio mwy na £550 miliwn i’r GIG yng
Nghymru. Felly, rydym yn gofyn i Lywodraeth Cymru gyflwyno ffi fechan (e.e.
£1.00) am bresgripsiynau er mwyn defnyddio’r arian i sefydlu cronfa cyffuriau
canser yng Nghymru fel y gall pobl fel Beth, a channoedd o bobl eraill tebyg, o
leiaf gael cyfle i roi cynnig ar rywbeth sydd wedi’i wrthod iddynt ar hyn o
bryd, yn wahanol i bobl yn Lloegr a’r Alban.
Prif ddeisebydd: Cllr Sean Aspey
Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 21 Ionawr 2014
Nifer y llofnodion: 247
Trafodwyd y ddeiseb hon gan y Pwyllgor ar 23
Chwefror 2016 o dan Eitem 4 ar yr Agenda –
Deisebau y cynigir y dylid eu cau, a chytunodd i gau’r ddeiseb.
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Cyhoeddwyd gyntaf: 13/01/2014