P-03-144 Cwn Tywys y Deillion - lle sy'n cael ei rannu

P-03-144 Cwn Tywys y Deillion - lle sy'n cael ei rannu

Geiriad y ddeiseb:
Yr ydym ni, y cynrychiolwyr a lofnodir isod, yn deisebu Cynulliad Cenedlaethol Cymru i osod cyfrifoldeb penodol ar awdurdodau lleol i fod yn ymwybodol o’u dyletswyddau dan y Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd a’r Ddyletswydd Cydraddoldeb Anabledd, a chydymffurfio â hwy drwy beidio â chreu canol trefi, strydoedd mawr na strydoedd preswyl gydag arwynebau a rennir sy’n gwahaniaethu yn erbyn pobl ddall a phobl sy’n gweld yn rhannol a phobl anabl eraill, gan eu hallgáu i bob pwrpas o amgylchedd y stryd.’

Prif ddeisebydd:
Cymdeithas Cwn Tywys y Deillion

Nifer y deisebwyr:
10

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Dogfennau