P-04-518 Ciniawau ysgol am ddim yn gyffredinol

P-04-518 Ciniawau ysgol am ddim yn gyffredinol

Rydym ni, y rhai sydd wedi llofnodi isod, yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno cynllun ciniawau poeth am ddim i bob plentyn mewn dosbarthiadau derbyn, blwyddyn1 a blwyddyn 2.

Gwybodaeth Ychwanegol:
Mae nifer o astudiaethau wedi dangos fod bod â chwant bwyd yn effeithio ar y gallu i ganolbwyntio, a bod plant sy
n cael digon o faeth yn gwneud yn well yn yr ysgol. Byddai ymestyn y ddarpariaeth ciniawau ysgol am ddim hefyd yn helpu teuluoedd i dalu eu costau byw, oherwydd amcangyfrifwyd bod cinio ysgol cyffredin ar gyfer pob plentyn yn costio £437 y flwyddyn i rieni. Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi y bydd pob plentyn rhwng pump a saith mlwydd oed yn ysgolion y wladwriaeth yn Lloegr yn cael ciniawau ysgol am ddim. Rydym ni or farn y dylai Llywodraeth Cymru wneud yr un peth.

 

Prif ddeisebydd: Jane Dodds

 

Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 26 Tachwedd 2013

 

Nifer y llofnodion: 14

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 20/11/2013