P-04-508 Rhaid adfer yr Olygfa o Landyfi

P-04-508 Rhaid adfer yr Olygfa o Landyfi

Er ein bod yn croesawu’r cam i ledu ffordd yr A487 yng Nglandyfi yn gyffredinol, rydym yn hynod o bryderus ac yn tristáu’n ddirfawr bod y gwaith wedi golygu bod y wal ar ochr y môr i’r ffordd wedi’i chodi’n ddiangen, ac mae hyn bellach yn atal preswylwyr a defnyddwyr y ffordd rhag mwynhau’r golygfeydd godidog draw dros yr Afon Ddyfi, sydd wedi bod yn rhan o’r tirwedd lleol ers canrifoedd. Nid ydym yn teimlo bod creu man ffurfiol ‘i weld yr olygfa’ yn gwneud iawn am golli’r golygfeydd sydd wedi’u mwynhau’n ddyddiol cyn hyn gan ddefnyddwyr y ffordd bwysig hon, yn ymwelwyr a phobl leol. Felly, rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i roi gorchymyn i’r contractwyr ar unwaith i ostwng uchder y wal o faint digonol i adfer ein golygfa briodol o’r tirwedd hardd ac unigryw hwn.

 

Gwybodaeth ychwanegol:

Mae'r gwaith hir-ddisgwyledig i ledu'r A487 yng Nglandyfi bron wedi ei gwblhau erbyn hyn. Bydd yr holl ddefnyddwyr cyson y ffordd yn falch iawn o weld diwedd ar y tagfeydd ofnadwy a achoswyd gan y troeon cul ar y ffordd ger Cyffordd Glandyfi.

 

Ond sgîl-effaith hollol ddiangen y gwaith (yn ychwanegol at adeiladu'r waliau mwyaf yng Nghymru ers Edward I) ydy'r gwaith o adeiladu wal newydd rhwng y ffordd a'r Aber Dyfi. Mae'r wal newydd yn cuddio'r olygfa o'r ardal brydferth

hon yn gyfan gwbl o olwg y bobl sy'n gyrru heibio, golygfa sydd wedi cael ei fwynhau gan ddefnyddwyr y ffordd am ganrifoedd.

 

 Bu'r hen wal ddim ond cwpl o droedfedd o uchder, ac yn caniatáu golygfeydd di-dor o'r golygfeydd gwych ar draws yr afon a banciau tywod i'r bryniau tu hwnt. Mae'r wal newydd, am resymau sydd yn amlwg i'r datblygwyr yn unig, bron yn chwe throedfedd o uchder mewn mannau, ac y mae'n blocio'r olygfa yn gyfan gwbl. Mae rhai golygfeydd newydd wedi eu creu, ond nid yw hyn yn gwneud iawn am y golled.

 

Nid yw'n rhy hwyr i newid pethau: gall y wal gael ei gostwng i uchder rhesymol heb fawr o ymdrech neu gost, a gallwn unwaith eto fwynhau ein golygfeydd ar draws yr afon.

 

Prif ddeisebydd:  Nigel Callaghan

 

Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 8 Hydref 2013

 

Nifer y llofnodion : 83

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 02/10/2013