P-04-502 Canolfan Lles ar gyfer Cymru

P-04-502 Canolfan Lles ar gyfer Cymru

Rydym ni, sydd wedi llofnodi isod, yn galw ar y Cynulliad Cenedlaethol i annog Llywodraeth Cymru i sefydlu Canolfan Lles newydd ar gyfer Cymru a fyddai’n rhoi lles unigolion a chymunedau(1) wrth wraidd gwleidyddiaeth Cymru, a byddai ei harian craidd yn dod oddi wrth y llywodraeth.

 

Gwybodaeth ychwanegol

Er ein bod yn sylweddoli bod Llywodraeth Cymru wedi cymryd camau mawr ymlaen o ran polisi lles, dengys yr ystadegau diweddaraf gan Rwydwaith Iechyd Meddwl Cymru Gyfan bod iechyd meddwl gwael, er enghraifft, yn costio £7.2 biliwn y flwyddyn(2)  i economi Cymru a bod sgoriau lles goddrychol ardaloedd diwydiannol de ddwyrain Cymru ymhlith y sgoriau isaf yn y Deyrnas Unedig.(3)

Rydym ni o’r farn bod angen datrys y sefyllfa hon.

 

Byddai Canolfan Lles i Gymru yn darparu datrysiadau polisi sy’n seiliedig ar dystiolaeth i broblem lefelau lles yng Nghymru sydd, ar gyfartaledd, yn is na’r lefel gyfartaledd ar gyfer y DU. Byddai’n defnyddio arbenigedd amrywiaeth eang o bartneriaid ar draws y sectorau; gan gynnwys y bobl hynny sydd ag arbenigedd ym maes llunio polisi a hanes blaenorol o ymgysylltiad gwleidyddol effeithiol; unigolion sydd â phrofiad o ddarparu cynlluniau lles sylfaenol, er enghraifft cynrychiolwyr o’r sector gwirfoddol; pobl sydd â chefndir ym maes ymchwil gweithredu; yn ogystal ag academyddion a rhwydweithiau academaidd.

 

Byddai Canolfan Lles i Gymru yn cael ei hysbrydoli gan sefydliadau polisi mawreddog fel y Ganolfan Gyfiawnder Cymdeithasol (CSJ). Fel yn achos Cynghrair Brwydro yn erbyn Tlodi'r Ganolfan Gyfiawnder Cymdeithasol, byddai’r Ganolfan hefyd yn ceisio adeiladu ar sylfeini’r rhwydwaith bywiog o elusennau a sefydliadau gwirfoddol sy’n gweithio yn y maes. Sefydlwyd y rhwydwaith hwnnw eisoes gan Lles Cymru Wellbeing Wales, i greu Rhwydwaith Lles deinamig a fyddai’n gweithredu, nid yn unig i arddangos modelau o arfer gorau ac i lunio atebion deallus o ran polisi, ond hefyd i bontio rhwng cymunedau a’r llywodraeth.

 

Gallai Canolfan Lles i Gymru hefyd ddarparu ffocws ar gyfer ystod eang o fentrau arloesol sy’n hybu lles. Er enghraifft, drwy weithio gyda’r sector cyhoeddus a’r sector preifat gallai ddarparu rhaglenni hyfforddiant yn y gweithle wedi’u seilio ar faterion lles, gan gynnwys hyfforddiant lles yn y gweithle a dargedwyd ar gyfer pobl ar incwm isel; gan uwchraddio adnoddau fel y Pecyn Cymorth Lles Cynaliadwy, a ddatblygwyd gan Lles Cymru Wellbeing Wales, i gynorthwyo sefydliadau i weithredu a mesur rhaglenni lles; i fapio asedau cymunedol yng Nghymru er budd y cyhoedd; neu greu adnoddau digidol i gynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd o faterion lles, fel creu aps electronig am ddim i fesur lles unigolion. Byddai’r Ganolfan yn chwilio am arian ar gyfer ei rhaglen o brosiectau a digwyddiadau gan ymddiriedolaethau a sefydliadau elusennol, yn ogystal â chan noddwyr corfforaethol, unigolion preifat, a phartneriaethau â’r sector preifat.

 

Yn gryno, rydym ni sydd wedi llofnodi isod yn credu bod angen ymdrech ar y cyd gan asiantaethau niferus, oll yn cydweithio, i wireddu amcanion lles y llywodraeth, a amlinellwyd yn ei rhaglen ddeddfwriaethol. Byddai Canolfan Lles i Gymru yn gyfrwng perffaith i geisio sicrhau newid.

 

[1] “Mae lles yn gyflwr corfforol, cymdeithasol a meddyliol cadarnhaol; nid absenoldeb poen, anesmwythder ac anallu yn unig mohono.  Mae’n deillio, nid yn unig o gamau unigolion, ond o gasgliad o elfennau a pherthnasoedd â phobl eraill.  Mae lles person yn ei gwneud yn ofynnol bod ei anghenion sylfaenol yn cael eu diwallu, bod ganddo ymdeimlad o bwrpas, a’i fod yn teimlo y gall gyrraedd nodau pwysig a chymryd rhan mewn cymdeithas. Caiff y cyflwr ei wella gan amodau sy’n cynnwys perthnasoedd personol cefnogol, cael eich cynnwys mewn cymunedau grymus, iechyd da, sicrwydd ariannol, cyflogaeth foddhaus, ac amgylchedd iach a deniadol.

 

Darn allan o ‘Local Wellbeing: Can We Measure it?’ New Economics Foundation, Medi 2008

 

 (2) Promoting mental health and preventing mental illness: the economic case for investment in Wales -  gan Lynne Friedli a Michael Parsonage Hydref  2009. I gael rhagor o fanylion ewch i: http://www.publicmentalhealth.org/news.cfm?orgid=749&contentid=15934

 

[3]  http://www.wiserd.ac.uk/training-events/annual-conference/programme/health-and-wellbeing/analysis-subjective-wellbeing-wales-evidence-annual-populati/

 

Prif ddeisebydd:  Wellbeing Wales

 

Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 24 Medi 2013

 

Nifer y llofnodion: 52

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 18/09/2013