P-04-492 Diagnosis o awtistiaeth ymysg plant

P-04-492 Diagnosis o awtistiaeth ymysg plant

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i:

  • sicrhau diagnosis amserol ar gyfer plant gydag anhwylderau yn y sbectrwm awtistig, lle bynnag y byddant yn byw, fel bod modd cefnogi plant gydag awtistiaeth er mwyn iddynt gael bywydau llawn; ac
  • adolygu’r modd y caiff canllawiau NICE ynghylch cydnabod, cyfeirio a chael diagnosis o’r cyflwr ar gyfer plant a phobl ifanc yn y sbectrwm awtistig eu gweithredu, a sicrhau bod sefydliadau’n cydymffurfio â’r canllawiau fel rhan o waith Llywodraeth Cymru i ddiweddaru ei Chynllun Gweithredu Strategol ar Anhwylderau yn y Sbectrwm Awtistig.

 

Gwybodaeth ategol:

Gall cael diagnosis fod yn garreg filltir hanfodol ar gyfer pobl sydd ag awtistiaeth. O ran plant, gall helpu i sicrhau bod y gefnogaeth gywir ar gael iddynt o oedran ifanc.

 

Gall rhoi diagnosis o awtistiaeth fod yn anodd, gan fod awtistiaeth yn gyflwr cymhleth sy’n effeithio ar bob person mewn ffordd wahanol. Felly, rydym yn cefnogi’r farn y dylai nifer o arbenigwyr gwahanol fod yn rhan o’r broses, er mwyn sicrhau bod y diagnosis yn gywir.

 

Fodd bynnag, mae cael diagnosis amserol yn hanfodol er mwyn lleihau i’r eithaf y pryder a’r straen i blant sydd ag awtistiaeth a’u teuluoedd. Mae’r Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol yn cefnogi’r farn hon, ac wrth ymateb i gwestiwn gan Rebecca Evans AC, dywedodd ei bod yn llwyr gefnogi pwysigrwydd cael diagnosis amserol. Gwyddom hefyd fod ymyrryd yn gynnar yn hanfodol i ddatblygiad addysgol, emosiynol a chymdeithasol plant sydd ag awtistiaeth, ac i’w hiechyd yn y tymor hwy.

Er bod enghreifftiau o wasanaethau diagnosteg ac asesu da yng Nghymru, rydym yn pryderu’n fawr na all pawb gael diagnosis amserol, ac nad yw pob ardal yn dilyn canllawiau NICE o ran cydnabod, cyfeirio a chael diagnosis o’r cyflwr ar gyfer plant a phobl ifanc yn y sbectrwm awtistig.

 

Bu ein profiadau yma yn Sir Benfro yn arbennig o anodd, gyda rhai aelodau o’r gangen yn aros hyd at saith mlynedd am asesiad diagnostig. Mae’r aros hir hwn am ddiagnosis yn cael effaith fawr ar deuluoedd ar hyd a lled Sir Benfro.

 

Ceisiwyd ymgysylltu â Bwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda ar sawl achlysur. Rydym hefyd wedi cwrdd â Paul Davies ac Angela Burns, yr Aelodau Cynulliad lleol, i amlinellu ein pryderon. Mae Paul Davies AC wedi ysgrifennu at Fwrdd Iechyd Hywel Dda yn eu hannog i ddod i gwrdd ag aelodau’r gangen. Rydym yn aros o hyd i’r Bwrdd Iechyd weithredu yn hyn o beth. 

 

Mae un o aelodau’r gangen wedi aros dros chwe blynedd i un mab gael diagnosis. ‘Rwyf nawr yn aros am y llall, ers tua dwy flynedd, ac mae hynny’n fy arswydo.’

 

Rydym am sicrhau y caiff pob plentyn sydd ag anhwylder yn y sbectrwm awtistig drwy Gymru ddiagnosis amserol, fel bod modd rhoi’r gefnogaeth briodol iddynt i gael bywydau llawn.

 

Am awtistiaeth

Mae awtistiaeth yn anabledd datblygiadol am oes sy’n effeithio ar y modd y bydd person yn cyfathrebu â phobl eraill, ac yn ymwneud â hwy. Mae hefyd yn effeithio ar y modd y mae unigolion yn gwneud synnwyr o’r byd o’u cwmpas. Cyflwr sbectrwm ydyw, sy’n golygu, er bod pawb sydd ag awtistiaeth â’r un tri phrif faes anhawster, bydd eu cyflwr yn effeithio arnynt mewn ffyrdd gwahanol. Y tri phrif faes anhawster yw:

 

  • Anhawster â rhyngweithio cymdeithasol. Mae hyn yn cynnwys cydnabod a deall teimladau pobl eraill a rheoli eu teimladau eu hunain. Gall peidio â deall sut i ryngweithio â phobl eraill ei gwneud yn anodd ffurfio cyfeillgarwch â phobl;
  • Anhawster â chyfathrebu cymdeithasol. Mae hyn yn cynnwys defnyddio a deall iaith lafar ac iaith nad yw’n llafar, fel arwyddion, mynegiant wyneb a goslef y llais; a
  • Anhawster â dychymyg cymdeithasol. Mae hyn yn cynnwys y gallu i ddeall a rhagweld bwriadau ac ymddygiad pobl eraill ac i ddychmygu sefyllfaoedd sydd y tu allan i’w patrwm arferol hwy. Bydd ystod gyfyng o weithgareddau ailadroddus yn cyd-fynd â hyn ar adegau.

 

Gall rhai pobl sydd ag awtistiaeth fyw yn gymharol annibynnol, ond efallai y bydd ar bobl eraill angen cymorth arbenigol ar hyd eu hoes. Gall pobl sydd ag awtistiaeth hefyd brofi math o sensitifrwydd neu dan-sensitifrwydd y synhwyrau, er enghraifft, i synau, cyffyrddiadau, blasau, arogleuon, goleuni neu liwiau.  Mae syndrom Asperger yn fath o awtistiaeth. 

 

Mae gwaith ymchwil wedi nodi bod un person ym mhob 100 ag awtistiaeth. Wrth ddefnyddio’r ystadegyn hwn, amcangyfrifir bod dros 30,000 o bobl â chanddynt awtistiaeth yng Nghymru. Gydag aelodau eu teuluoedd, golyga hyn bod dros 100,000 o bobl yng Nghymru y caiff eu bywydau eu cyffwrdd gan awtistiaeth bob dydd.

 

Gwybodaeth am y Gymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth a Changen Sir Benfro 

Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth Cymru [NAS Cymru] yw’r unig elusen yng Nghymru a gaiff ei harwain gan aelodau ar gyfer pobl yr effeithir arnynt gan awtistiaeth. Sefydlwyd y Gymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth ym 1962 gan grŵp o rieni a oedd yn teimlo’n angerddol ynghylch sicrhau dyfodol gwell i’w plant. Yng Nghymru, ers 1994, buom yn darparu cymorth a gwasanaethau lleol ac yn ymgyrchu’n frwd, fel bod pobl sydd ag awtistiaeth yn cael y bywyd y maent yn dewis ei gael.

 

Mae NAS Cymru o’r farn bod y gefnogaeth gywir ar yr adeg gywir yn gwneud gwahaniaeth mawr iawn i fywydau’r rhai yr effeithir arnynt gan awtistiaeth, ac rydym wedi ymrwymo i sicrhau y caiff eu llais hwy ei glywed.

 

Mae gennym dros 900 o aelodau ledled Cymru ac 11 o ganghennau lleol, gan gynnwys yr un sydd yn Sir Benfro. Mae’r gangen, a lansiwyd ar 1 Ebrill 2011, ar gyfer rhieni plant sydd ag awtistiaeth, i ddarparu rhwydwaith o gefnogaeth i bobl a gysylltir â’i gilydd drwy awtistiaeth sy’n byw yn Sir Benfro a’r cyffiniau. Bydd y gangen yn cyfarfod yn rheolaidd ac yn cynnal digwyddiadau ffurfiol ac anffurfiol, a hefyd bydd yn ymgyrchu a chodi arian yn lleol. 

 

Prif ddeisebydd:  National Autistic Society Pembrokeshire Branch

 

Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 18 Mehefin 2013

 

Nifer y llofnodion : 902

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 11/06/2013