P-04-489 Deddf genedlaethol i Gymru ar dai fforddiadwy ac â blaenoriaeth
P-04-489 Deddf genedlaethol i Gymru ar dai fforddiadwy ac â blaenoriaeth
Rydym yn galw ar
Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i lunio Deddf
genedlaethol i Gymru ar dai er mwyn rheoli’r broses o godi tai newydd yn unol ag
anghenion lleol a chenedlaethol o ran gallu cynaliadwyedd a fforddiadwyedd: i’w reoli gan arolygiaeth annibynnol unigryw
i Gymru a phanel amcanestyniadau tai Cymru. Dylai tua 80% o’r holl dai newydd a godir yng Nghymru, p’un ai i’w rhentu neu’u gwerthu, fod yn dai fforddiadwy i
ddiwallu anghenion lleol (wedi’u prisio yn gymesur â chyflogau
cyfartalog awdurdod lleol) gyda blaenoriaeth i breswylwyr yr awdurdod lleol
(pobl sydd wedi byw neu weithio’n ddi-dor yn yr ardal am 10 mlynedd neu fwy, neu sydd â chysylltiadau
gwaith, busnes neu bartner/teulu agos arall yn yr ardal). Bydd hyn yn sicrhau
bod y rhan fwyaf o lif yr arian lleol yn cylchredeg o fewn economïau lleol, gan
eu cadw’n iach
i ddatblygu o fewn eu modd.Mae hwn yn bolisi tebyg i’r rhai a weithredir mewn parciau
cenedlaethol yn Lloegr fel y Peak District a Rhosydd Gogledd Swydd Efrog.
Gwybodaeth ategol:
Byddai deddf o’r
fath yn gwarantu bod yr holl dai newydd a godir yn cael eu hadeiladu yn llwyr
gymesur â’r cydbwysedd trefol / gwledig presennol a bod hyn yn cael ei wneud o
fewn gallu’r economi a thrwy ystyried cydlyniant cymdeithasol a gallu seilwaith
yr awdurdodau lleol a Chymru gyfan. Gellid codi nifer lleiaf sylfaenol o dai /
fflatiau newydd yn ôl disgresiwn awdurdodau lleol o dan ganllawiau a gytunwyd
arnynt, gydag unrhyw dai / fflatiau newydd eraill a godir yn gorfod mynd drwy
broses graffu gan Lywodraeth Cymru ac arolygiaeth tai annibynnol a gaiff ei
sefydlu i Gymru. Gall prisiau tai uchel anghymesur mewn sawl ardal yng Nghymru
olygu yn aml bod teuluoedd lleol yn cael eu gorfodi i adael yr ardaloedd lle
y’u magwyd. Mae angen i’r ffocws, felly, fod ar angen lleol real gan gynnwys tai
fforddiadwy ac adfer adeiladau sy’n bodoli yn barod, yn hytrach nag ar
amcanestyniadau tai anghynaladwy a luniwyd gan weision sifil o bell.
Prif ddeisebydd: Cymru Sofren
Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 18 Mehefin 2013
Nifer y llofnodion : 28
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 11/06/2013