P-04-484 Lwfans Cynhaliaeth Addysg i bawb!

P-04-484 Lwfans Cynhaliaeth Addysg i bawb!

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i ganiatáu pob plentyn 16-19 oed mewn addysg llawn amser i gael y £30 llawn o’r Lwfans Cynhaliaeth Addysg yr wythnos, beth bynnag yw incwm eu rhieni.

Gwybodaeth ychwanegol: Dylai pob plentyn 16-19 oed gael y £30 llawn o’r Lwfans Cynhaliaeth Addysg yr wythnos, beth bynnag yw incwm eu rhieni. Nid yw pob rhiant sy’n ennill cyflog digonol yn helpu eu plant yn ariannol i fynd i’r coleg, ac mae’n anodd dod o hyd i waith oherwydd bod y rhan fwyaf o weithleoedd yn gofyn am brofiad yn eu meysydd. Dylai pob plentyn gael y lwfans wythnosol, ar yr amod eu bod yn mynd i’r ysgol neu’r coleg.

.

Prif ddeisebydd:  Jack Gillum

 

Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 4 Mehefin 2013

 

Nifer y llofnodion : 10

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Cyhoeddwyd gyntaf: 03/06/2013