P-04-476 Ailstrwythuro Amgueddfa Cymru

P-04-476 Ailstrwythuro Amgueddfa Cymru

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i ail-ystyried ei setliad ariannol ar gyfer Amgueddfa Cymru, er mwyn diogelu gwasanaethau’r Amgueddfa a swyddi, tâl ac amodau ei staff.

 

Mae’r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi rhewi grant Amgueddfa Cymru wedi arwain at gyhoeddi toriadau o hyd at £2.5 miliwn, ynghyd â chynigion ar gyfer ailstrwythuro a fyddai’n golygu bod oddeutu 35 o swyddi’n cael eu colli, effeithiau niweidiol posibl ar gyfer dros 160 o staff ac o bosibl colli lwfansau, a fyddai’n arwain at doriad o 20 y cant yn y cyflog yn eu poced ar gyfer rhai o gyflogeion yr Amgueddfa sy’n ennill y cyflogau isaf. Rydym o’r farn bod y toriadau arfaethedig nid yn unig yn bygwth safonau byw, swyddi a sicrwydd i staff ffyddlon Amgueddfa Cymru, ond hefyd yn bygwth y gwasanaethau unigryw y maent yn eu cynnig i bobl Cymru a’r miliwn a hanner o ymwelwyr sy’n dod bob blwyddyn, gan gynnwys ymweliadau ysgol ac ymweliadau addysg.

 

Prif ddeisebydd:  PCS Union

 

Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 30 Ebrill 2013

 

Nifer y llofnodion : 1617

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 22/04/2013