P-04-458 Cadwch Addysg Bellach yn y Sector Cyhoeddus
P-04-458 Cadwch Addysg Bellach yn y Sector Cyhoeddus
Rydym yn galw ar
Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth
Cymru i sicrhau:
1. Y caiff addysg bellach,
ynghyd ag asedau sy’n cael
arian cyhoeddus, eu cadw o fewn
y sector cyhoeddus.
2. Y bydd colegau’n parhau i ymrwymo i gytundebau cenedlaethol o ran Addysg Bellach, fel y graddfeydd cyflog cenedlaethol.
3. Y caiff contract Cymru gyfan ei gyflwyno
ar gyfer darlithwyr ym maes
Addysg Bellach
4. Na fydd Gweinidogion Cymru yn diddymu
colegau na rhoi’r gallu i golegau drosglwyddo eiddo, hawliau a chyfrifoldebau i gorff arall.
Gwybodaeth ychwanegol:
1.
Roedd maniffesto
Llafur Cymru ar gyfer etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2011 yn datgan mai “asedau
cyhoeddus yw colegau addysg bellach, y mae eu cymunedau lleol yn ogystal â’r
gymuned o staff a dysgwyr, yn berchen arnynt”. Un ymrwymiad yn y maniffesto
oedd “sicrhau parch cydradd rhwng darlithwyr colegau a staff addysgu mewn
ysgolion drwy gynnal y cyswllt presennol rhwng tâl ac amodau” a “chyflwyno
contract Cymru gyfan ar gyfer darlithwyr addysg bellach”.
2.
Fodd bynnag, ym mis
Gorffennaf 2012, cyflwynodd Llywodraeth Cymru y Papur Gwyn hir-ddisgwyliedig ar
ei fil arfaethedig ar Addysg Bellach yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru am
gyflwyno newidiadau, drwy ddeddfwriaeth, a fydd yn cael gwared ar nifer o
gyfyngiadau a rheolaethau ar golegau, ac yn rhoi mwy o ymreolaeth i Benaethiaid
colegau.
3.
Ar hyn o bryd mae
Llywodraeth Cymru yn gosod dyletswydd ar golegau i gynnal tâl cyfartal ar gyfer
darlithwyr addysg bellach ac athrawon, drwy'r llythyr amodau ariannu blynyddol
y bydd yn ei anfon i golegau addysg bellach yng Nghymru. Roedd llawer o
benaethiaid colegau yn gwrthwynebu'r cam i gyflwyno graddfa cyflog Cymru
gyfan.
4.
Os na fydd Llywodraeth
Cymru yn parhau i fod â rhyw gymaint o reolaeth dros y sector addysg bellach,
gall colegau ddiystyru cytundebau cenedlaethol ym maes addysg bellach, a all
gynnwys graddfeydd cyflog cenedlaethol. Pe bai colegau yn diystyru'r contractau
a'r graddfeydd cyflog cenedlaethol presennol, gallai graddfeydd cyflog
addysgwyr amrywio'n sylweddol o goleg i goleg.
Gallai hynny effeithio ar ansawdd yr addysgu felly, oherwydd na fyddai
athrawon am weithio i'r colegau hynny sy'n cynnig graddfeydd cyflog is.
5.
Mae Papur Gwyn
Llywodraeth Cymru yn nodi y caiff pŵer Gweinidogion Cymru i ddiddymu colegau ei ddisodli gan
allu coleg i'w ddiddymu ei hun a throsglwyddo eiddo, hawliau a chyfrifoldebau i
gorff arall. Pe bai gan golegau yr hawl i drosglwyddo eu heiddo, eu hawliau a'u
cyfrifoldebau (fel y nodir yng nghynigion Llywodraeth Cymru), yna gallai
colegau eu diddymu eu hunain a throsglwyddo eu hasedau i gwmni preifat
cyfyngedig drwy warant.
Prif ddeisebydd: UCU Crosskeys Branch
Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 19 Chwefror 2013
Nifer y llofnodion: 246
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried