P-04-424: Cadw gwasanaethau yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot
P-04-424: Cadw gwasanaethau yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot
Geiriad y ddeiseb
Rydym ni,
y rhai sydd wedi llofnodi isod,
yn galw ar
Gynulliad Cenedlaethol
Cymru i annog Llywodraeth
Cymru i wyrdroi’r penderfyniad
i symud yr holl Feddygon CT2 o Ysbyty Castell-nedd Port Talbot yn yr hydref
heb ymgynghori â’r cyhoedd o flaen
llaw. Mae’r penderfyniad hwn yn golygu na
fydd gwasanaethau meddygol aciwt yn cael eu
darparu yn yr ysbyty, a bydd
rhaid i gleifion deithio i Dreforys yn Abertawe neu
i Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont
ar Ogwr i gael gwasanethau o’r fath. Mae Ysbyty Castell-nedd Port Talbot yn ysbyty Menter Cyllid
Preifat o’r radd flaenaf, ac mae trigolion yr
ardal hon am i wasanaethau sydd mor hanfodol gael
eu cadw yn
ysbyty Castell-nedd Port
Talbot.
Prif ddeisebydd: Carolyn Edwards
Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 2 Hydref
2012
Nifer y llofnodion: 193
o lofnodion. Casglwyd dros 5000 o
lofnodion gan ddeisebau cysylltiedig.
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;