P-04-420 Adeiladu Cofeb i Owain Glyndŵr

P-04-420 Adeiladu Cofeb i Owain Glyndŵr

Geiriad y ddeiseb

 

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i adeiladu Cofeb i Owain Glyndŵr , ar raddfa a rhwysg Cofeb William Wallace yn Stirling, yr Alban.  Mae amryw o leoliadau a fyddai’n addas gan gynnwys Corwen a Machynlleth, i enwi dim ond dau. Os gall Llywodraeth Cymru, yn ôl y sôn,  fod yn cynllunio i ailaddurno cyntedd bloc swyddfeydd  Aelodau’r Cynulliad sy’n costio 200k , yna credwn y gall Llywodraeth Cymru fuddsoddi swm o arian hyd yn oed yn fwy mewn adeiladu Cofeb i Owain Glyndŵr, sef Tywysog Brodorol Olaf Cymru . Ar ôl ei gwblhau, byddain rhoi lleoliad y Gofeb ar y map gan ddod â chyllid, y mae cymaint oi angen, i mewn o dwristiaeth gan roi hwb pellach i ddelwedd Cymru. Felly byddai pawb yn elwa.

Prif ddeisebydd:  Russell Gwilym Morris

Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor:  2 Hydref 2012

Nifer y llofnodion:  74

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;