P-04-419 Moratoriwm ar Ddatblygu Ffermydd Gwynt
P-04-419 Moratoriwm ar Ddatblygu Ffermydd Gwynt
Geiriad y ddeiseb
Galwn ar
Gynulliad Cenedlaethol
Cymru i ofyn i Lywodraeth
Cymru am foratoriwm ar ddatblygu ffermydd gwynt a thyrbinau gwynt y mae
ganddi gyfrifoldeb datganoledig drostynt. Bydd y moratoriwm yn
gyfnod o fyfyrio, a bydd pwyllgor trawsbleidiol
yn cael ei
gynnull yn yr amser hwn
i archwilio effeithiau gweithredu tyrbinau gwynt ar iechyd,
lles cymdeithasol, gwerth adeiladau, twristiaeth, a’r economi leol, o fewn 15 kilometr i’r safleoedd hyn.
Gofynnwn i’r
pwyllgor trawsbleidiol gael caniatâd
i gomisiynu gwaith ymchwil annibynnol ar faterion datganoledig
iechyd, lles cymdeithasol a thwristiaeth mewn perthynas â thyrbinau gwynt, ac i gytuno ar gyfres
o safonau ar gyfer ynni gwynt
datganoledig, a fydd yn blaenoriaethu gofalu am yr amgylchedd
lleol, tir amwynderau, cynefinoedd a natur.
Gofynnwn hefyd
i bob safle tyrbin gwynt ddatganoledig orfod cael cymeradwyaeth
mewn refferendwm lleol (o fewn 5 kilometr).
Nid yw’r
ddeiseb hon yn ymwneud ag ynni gwynt
a reolir gan Gyfarwyddiaeth y Seilwaith Cenedlaethol.
Prif ddeisebydd: James Shepherd Foster
Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 2 Hydref
2012
Nifer y llofnodion:
1332
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;