P-04-417 Achubwch Draeth Morfa ac ataliwch Lwybrau Troed Cyhoeddus 92 a 93 rhag cau
P-04-417 Achubwch Draeth Morfa ac ataliwch Lwybrau Troed Cyhoeddus 92 a 93 rhag cau
Geiriad y ddeiseb
Darn o’r morlin rhwng Gwaith Dur Port Talbot a Thraeth Sgêr yw Traeth
Morfa, gerllaw Gwarchodfa Natur Cynffig .
Dim ond ar droed neu ar feic y mae’n bosibl cael mynediad i’r traeth,
felly mae wedi dod yn fan gwerthfawr o heddwch a thawelwch. Yn 2011 ffurfiwyd y
grŵp
cymunedol , “Save
Morfa Beach (Friends of Morfa) †mewn ymateb i fygythiad drwy Waith Dur TATA a oedd
yn ceisio atal mynediad i’r traeth. Mae
hyn yn cynnwys cau dau lwybr troed cyhoeddus o arwyddocâd hanesyddol sy’n cael llawer o ddefnydd ac sy’n
arwain i’r traeth: Llwybr troed 92 o Longland’s Lane ym Margam a Llwybr Troed
93 o Warchodfa Natur Cynffig. Mae’r DEISEBWYR yn cefnogi ymgyrch sefydliad Save
Morfa Beach (Friends of Morfa) i ddiogelu’r hawliau tramwy ar hyd llwybrau
troed 92 a 93 a chadw’r mynediad i Draeth Morfa. Rydym yn gofyn i Lywodraeth Cymru a Chyngor
Castell-nedd Port Talbot gynnal a chadw’r holl hawliau tramwy ar Margam
Burrows, ac ymgysylltu â Tata Steel er mwyn sicrhau bod mynediad cyhoeddus i’r
traeth yn parhau.
Gwybodaeth ategol: Pa un ai a yw
hawliau tramwy’n croesi tir preifat neu dir cyhoeddus, Cyngor Bwrdeistref Sirol
Castell-nedd Port Talbot a Chynulliad Cymru sy’n gyfrifol yn y pen draw am
sicrhau eu bod yn cael eu gwarchod, eu bod ar gael a’u bod yn addas i’r diben.
Rydym felly’n lobïo, ond fel sefydliad nid ydym yn wleidyddol . Cafodd Grŵp ei greu ar Facebook (www.facebook.com/groups/SaveMorfaBeach/) fel
proffil cyhoeddus y sefydliad.
Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 2 Hydref 2012
Prif ddeisebydd: Save Morfa Beach
(Friends of Morfa)
Nifer y llofnodion: 1191
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Angen Penderfyniad: 10 Hyd 2012 Yn ôl Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad