P-04-411 Deiseb yn Erbyn Parthau Cadwraeth Morol yn Sir Benfro

P-04-411 Deiseb yn Erbyn Parthau Cadwraeth Morol yn Sir Benfro

Geiriad y ddeiseb: 

Galwaf ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i sicrhau nad yw’r tri Pharth Cadwraeth Morol Gwarchodedig Iawn arfaethedig yn sir Benfro yn cael eu dynodi’n barthau lle na chaniateir pysgota i ddiwydiant pysgota y glannau.

Credaf fod y penderfyniad anghywir wedi’i wneud wrth gynllunio i ddynodi statws Parth Cadwraeth Morol Gwarchodedig Iawn yn unig, gan wahardd pob gweithgaredd alldynnol; ymddengys fod y penderfyniad hwn yn un gwleidyddol yn hytrach na’n un gwyddonol, sy’n rhan allweddol o’r broses Parthau Cadwraeth Morol.

Cyflwynwyd y ddeiseb gan:  Stephen De-Waine

Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor:  2 Hydref 2012

Nifer y llofnodion: . 586

 

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Angen Penderfyniad: 7 Hyd 2012 Yn ôl Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad