P-04-410 Cofeb Barhaol i Weithwyr Cymru

P-04-410 Cofeb Barhaol i Weithwyr Cymru

Geiriad y ddeiseb:

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i ariannu, naill ai’n uniongyrchol neu drwy Gyngor Celfyddydau Cymru, gofeb barhaol i weithwyr’.

Bu farw un ar ddeg o bobl wrth eu gwaith y llynedd yng Nghymru.  Mae marw ac anafiadau’n amlwg iawn yn hanes Cymru.  Roedd y trychineb ym mhwll Gleision y llynedd yn ein hatgoffa o erchyllterau’r gorffennol.  Ac eto, er gwaethaf y ffordd mae marwolaethau gweithwyr wedi llunio gorffennol Cymru, ac yn parhau hyd yn oed heddiw, ychydig iawn sydd i ddangos ein bod yn cofio amdanynt.  Nododd rhai undebau llafur Ddiwrnod Rhyngwladol Cofio Gweithwyr drwy gynnal ralïau, ac yn y blaen, ond diwrnod yn unig oedd hwnnw, a ddaeth i ben ac a anghofiwyd yn fuan.  Mae’n sicr yn bryd cael cofeb barhaol er cof am holl weithwyr Cymru.  Mae cofebau ar safle rhai o drychinebau’r gorffennol, fel Senghennydd  a Gresffordd, ond nid oes dim i nodi bywydau nifer o weithwyr eraill a fu farw wrth eu gwaith. Byddai cofeb barhaol i weithwyr yn dangos ein parch at yr holl weithwyr hyn, a byddai hefyd yn llesol ein hatgoffa o bwysigrwydd iechyd a diogelwch, sy’n cael eu difrïo’n gyffredinol.

Gwybodaeth ategol:

Mae’n bum mlynedd eleni ers cael Deddf Dynladdiad Corfforaethol 2007 – byddai’n braf iawn gweld Llywodraeth Cymru’n cyhoeddi eleni ei bod am sefydlu cofeb barhaol i’w datgelu yn 2014, sef 40 mlynedd ers cael y Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith. Elusen annibynnol yw Sefydliad Bevan (rhif 104191) sy’n ymwneud â chyfiawnder cymdeithasol yng Nghymru.  Rydym yn newid Cymru drwy waith ymchwil a dadlau yn ein cyhoeddiadau a’n digwyddiadau.  I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.bevanfoundation.org

Cyflwynwyd y ddeiseb gan:  Bevan Foundation

Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor:  2 Hydref 2012

Nifer y llofnodion: 23

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Y Broses Ymgynghori

Hoffai’r Pwyllgor gael eich barn ar P-04-410 Cofeb Barhaol i Weithwyr Cymru.

 

Dogfennau

Ymgynghoriadau