P-04-405 Llawysgrif ganoloesol o Gyfreithiau Hywel Dda

P-04-405 Llawysgrif ganoloesol o Gyfreithiau Hywel Dda

P-04-405  Llawysgrif ganoloesol o Gyfreithiau Hywel Dda

Geiriad y ddeiseb:

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i brynu’r llawysgrif ganoloesol o Gyfreithiau Hywel Dda, sy’n cael ei arwerthu gan Sotheby’s ar 10 Gorffennaf.  Teimlwn y dylai Llywodraeth Cymru brynu’r llawysgrif hon ar gyfer pobl Cymru gan naill ai ei harddangos mewn amgueddfa yng Nghymru neu yn Neuadd y Senedd, yn hytrach na’r posibilrwydd bod casglwr preifat yn ei phrynu ac na fydd y cyhoedd fyth yn ei gweld hi eto.

Cyflwynwyd y ddeiseb gan:  Russell Gwilym Morris

Ystyriwyd y ddeiseb am y tro cyntaf:  2 Gorffennaf 2012

Nifer y llofnodion:  53

 

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;