P-04-398 Ymgyrch dros gael cofrestr ar gyfer pobl sy’n cam-drin anifeiliaid yng Nghymru

P-04-398 Ymgyrch dros gael cofrestr ar gyfer pobl sy’n cam-drin anifeiliaid yng Nghymru

Geiriad y ddeiseb:

Llofnodwch i gefnogi cofrestr ar gyfer pobl sy’n cam-drin anifeiliaid.  Dyma gronfa ddata canolog i Gymru a fydd yn cynnwys enw, cyfeiriad a chollfarnau pobl sydd wedi’u cael yn euog o unrhyw fath o gam-drin neu greulondeb yn erbyn anifeiliaid yng Nghymru.  Bydd yn ofynnol i fridwyr neu werthwyr anifeiliaid wirio’r gronfa ddata canolog hwn cyn caniatáu i anifail y maent yn berchen arno neu wedi’i fridio fynd i ddarpar berchennog neu gartref newydd; os canfyddir bod anifail gan rywun sydd wedi’i gael yn euog o gam-drin neu greulondeb yn erbyn anifeiliaid, bydd y cyflenwr neu’r bridiwr yn atebol a chaiff ei erlyn.  Ar hyn o bryd, nid oes cyfraith i atal rhywun sydd wedi’i gael yn euog o greulondeb i anifeiliaid rhag symud ychydig filltiroedd i fyny’r ffordd a chael anifail arall a’i gam-drin ymhellach.  Rhaid gweithredu cyfreithiau llymach er mwyn helpu i ddiogelu anifeiliaid.  Mae angen dirwyon trymach a dedfrydau hwy o garchar yn ogystal â chofrestr ar gyfer pobl sy’n cam-drin anifeiliaid. 

 

Mae Efrog Newydd a nifer o daleithiau yn yr Unol Daleithiau eisoes wedi cyflwyno’r gyfraith hon; beth sy’n rhwystro Cymru rhag arwain y ffordd yn y Deyrnas Unedig?  Rydych wedi clywed am Gyfraith Sarah, a luniwyd i gadw troseddwyr rhyw rhag aildroseddu.  Nawr rydym yn gobeithio cael cyfraith a grëwyd yn y gobaith o atal pobl sy’n cam-drin anifeiliaid rhag achosi rhagor o greulondeb, neu rhag symud ymlaen at gam-drin pobl.  Mae ymchwil wedi dangos bod cydberthynas gref iawn rhwng cam-drin anifeiliaid a cham-drin domestig.  Mae nifer o lofruddion yn dechrau drwy arteithio anifeiliaid, felly gallem hefyd ddiogelu bywydau pobl.

 

Cyflwynwyd y ddeiseb gan:  Mari Roberts & Sara Roberts

 

Ystyriwyd y ddeiseb am y tro cyntaf:  19 Mehefin 2012

 

Nifer y llofnodion:  69

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Dogfennau