P-04-393 Grwp Gweithredu Ffordd Osgoi Llanymynech a Phant

P-04-393 Grwp Gweithredu Ffordd Osgoi Llanymynech a Phant

Geiriad y ddeiseb:

Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i adfer y cynlluniau ar gyfer ffordd osgoi heibio i bentrefi Pant a Llanymynech, sydd ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr. Bydd 15,000 o geir a lorïau yn gyrru trwy’r ddau bentref bob dydd, a bydd y nifer hwn yn si
ŵr o gynyddu unwaith y rhoddir caniatâd ir ffermydd gwynt. Rydym yn galw ar y llywodraeth yn awr i fwrw ymlaen â’i chynlluniau, neu i ddechrau cynnal trafodaethau am y ffordd osgoi o leiaf, a chynnal dadl lawn yn ei chylch, gan wrando ar lais ein cymuned ynghylch ein hanghenion a sut y mae’r ffordd hon yn effeithio arnom ni ac ar ein bywydau. O wneud hyn, gobeithio y bydd y llywodraeth yn Lloegr yn cymryd sylw o’r drafodaeth ac yn bwrw ymlaen â chynlluniau ar eu hochr hwy i’r ffin. Ein dymuniad yw y bydd dadl lawn ac agored yn cael ei chynnal ar yr angen am ffordd osgoi i bentrefi Pant a Llanymynech, a fydd wedyn yn arwain at adeiladu’r ffordd osgoi pan fydd arian ar gael.

Rydym wedi cael llond bol ar y sŵn, y llygredd, ar ffaith na allwn gerdded gydan plant ir ysgol, cerdded ir siopau, na mynd an cŵn am dro ar hyd y ffordd. Ni fydd gwelliannau fel lledu’r ffordd yn gweithio yma. Cynlluniwyd y ffordd i ddechrau fel ffordd un lôn ar gyfer ceffylau a cherti.  Mae llawer o’r tai ar y ddwy ochr yn agos iawn at y ffordd, ac mae nifer o lonydd yn ymuno â’r A483, sydd hefyd yn gwneud y ffordd yn anaddas i’w gwella. Teimlwn mai adeiladu ffordd osgoi yw’r unig ateb, a throi’r ffordd o Lynclys (sy’n hynod o beryglus) o gylch pentrefi Pant a Llanymynech a’i chysylltu â’r ffordd osgoi newydd ger Llandysilio. Hon yw’r brif gefnffordd rhwng Manceinion ac Abertawe, ac nid yw’n addas i’w diben. Mae llawer o Aelodau Seneddol ac Aelodau’r Cynulliad o blaid ein hymgyrch ac rydym yn benderfynol o gyflawni ein hamcan, a gweld dadl lawn yn cael ei chynnal ar y mater hwn yn y Cynulliad.

 Cyflwynwyd y ddeiseb gan:  Duncan Borthwick

Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor:  29 Mai 2012

Nifer y llofnodion:  84

 

Trafodwyd y ddeiseb hon gan y Pwyllgor ar 23 Chwefror 2016 o dan Eitem 4 ar yr Agenda – Deisebau y cynigir y dylid eu cau, a chytunodd i gau’r ddeiseb.

 

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 16/05/2016

Angen Penderfyniad: 14 Meh 2012 Yn ôl Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad