P-04-334 Uned Arennol Newydd yn Ysbyty Tywysog Siarl

P-04-334 Uned Arennol Newydd yn Ysbyty Tywysog Siarl

Geiriad y ddeiseb:
Rydym yn galw ar y Cynulliad Cenedlaethol i annog Llywodraeth Cymru i adeiladu Uned Arennol newydd yn Ysbyty’r Tywysog Siarl, Merthyr Tudful,

 

Cafodd yr uned bresennol ei hadeiladu ym 1989 i drin 16 claf yr wythnos, ond mae’r nifer hwnnw bellach wedi codi i 52. Gyda nifer y cleifion arennol yn cynyddu’n flynyddol, rydym yn credu ei bod yn bwysig adeiladu uned newydd yn awr er mwyn ymdopi â’r cynnydd hwn. Byddai uned newydd hefyd yn golygu y gellid trin cleifion arennol sydd ond angen mân-driniaethau yn yr uned yn hytrach na’u trosglwyddo i ysbytai eraill sydd angen y gwelyau.

Dyma rai yn unig o’r problemau sydd gennym yn yr uned bresennol:

 

1.  Diffyg ardal ynysu (a allai arwain at groes-heintio)

2.  Un toiled yn unig i gleifion gwrywaidd a benywaidd

3.  Ardal aros gyfyng

4.  Aerdymheru gwael

5.  Mae’r uned wedi dioddef llifogydd ar sawl achlysur.

 

Prif ddeisebydd:

Robert Kendrick

 

Nifer y deisebwyr:

56

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 07/04/2014