P-04-333 Rhoi diwedd ar esgeuluso a gadael ceffylau a merlod drwy orfodi deddfwriaeth ar ddefnyddio microsglodion.

P-04-333 Rhoi diwedd ar esgeuluso a gadael ceffylau a merlod drwy orfodi deddfwriaeth ar ddefnyddio microsglodion.

Geiriad y ddeiseb:
Mae’r Gymdeithas er Lles Ceffylau a Merlod wedi cael llif o alwadau am gymorth gan aelodau pryderus o’r cyhoedd, perchnogion ceffylau a’r heddlu ynghylch ceffylau sydd wedi’u gadael, eu hesgeuluso neu sydd wedi’u hanafu. Mae nifer ohonynt wedi eu hanafu wrth iddynt grwydro ar ein ffyrdd sy’n beryglus iawn i fodurwyr.

 

Does dim microsglodyn gan yr un o’r ceffylau hynsydd wedi bod yn ofyniad cyfreithiol ar ebolion ac ebolesau sydd wedi’u geni ar ôl mis Gorffennaf 2009 – sy’n golygu nad yw hi’n bosibl olrhain perchnogion y ceffylau. Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i sicrhau bod microsglodion yn cael eu defnyddio a bod pasbortau gan geffylau fel sy’n ofynnol yn ôl Deddfwriaeth 2009.

 

Prif ddeisebydd:

Y Gymdeithas er Lles Ceffylau a Merlod

 

Nifer y deisebwyr:

2114

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Y Broses Ymgynghori

Mae’r Pwyllgor yn croesawu ymatebion gan unigolion a sefydliadau. Os ydych yn ymateb ar ran sefydliad, cyflwynwch ddisgrifiad byr o rôl eich sefydliad.

 

Yn gyffredinol, byddwn yn gofyn am gyflwyniadau ysgrifenedig oherwydd mae’n arferol i’r Cynulliad Cenedlaethol gyhoeddi’r dystiolaeth a gyflwynir i’r Pwyllgor ar ein gwefan fel bod cofnod cyhoeddus ohoni. Fodd bynnag, gallwn hefyd dderbyn tystiolaeth mewn fformat sain neu fideo.

 

Mae’r Pwyllgor yn croesawu cyfraniadau yn Gymraeg neu Saesneg, a gofynnwn i sefydliadau sydd â chynlluniau/polisïau iaith Gymraeg i ddarparu ymatebion dwyieithog, yn unol â’u polisïau gwybodaeth i’r cyhoedd.

 

Os hoffech gyflwyno tystiolaeth, anfonwch gopi electronig ohoni at  deisebau@cymru.gov.uk. Fel arall, gallwch ysgrifennu at: Clerc y Pwyllgor, Y Pwyllgor Deisebau, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Bae Caerdydd, CF99 1NA.

 

Dylai’r dystiolaeth ddod i law erbyn dydd Iau, 17 Tachwedd 2011. Efallai na fydd yn bosibl ystyried yr ymatebion a ddaw i law ar ôl y dyddiad hwn.

 

Gwelwch y llythyr ymgynghori isod am fwy o wybodaeth.

 

Dogfennau