P-04-330 Cofnod Cymraeg yn ein Cynulliad ni
P-04-330 Cofnod Cymraeg yn ein Cynulliad ni
Geiriad y ddeiseb:
Rydym yn pryderu am statws a defnydd y Gymraeg yn y Cynulliad
Cenedlaethol. Mae’r Gymraeg bellach yn iaith swyddogol yng Nghymru, ac rydym yn
falch iawn o’r datblygiad hwn. Fodd bynnag, mae’r penderfyniad i adael i’r
Cofnod - dogfen o’r pwys symbolaidd mwyaf - droi bellach yn ddogfen uniaith
Saesneg ar y cyfan, ar ôl iddi fod yn gwbl ddwyieithog ers 1999, yn gwbl groes
i’r datblygiad hwn ac yn sathru ar statws swyddogol y Gymraeg.
Galwn felly ar i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ddychwelyd at
y polisi o ddarparu Cofnod dwyieithog cyflawn fel y gall pobl Cymru ddarllen
trafodion Cynulliad yn eu hiaith eu hunain, boed hynny yn Gymraeg neu’n
Saesneg. Mater o egwyddor yw hyn, parchu hawliau iaith pobl Cymru ar lefel
sylfaenol.
Prif ddeisebydd:
Catrin Dafydd
Nifer y deisebwyr:
1334
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Cyhoeddwyd gyntaf: 05/08/2014