P-04-323 Achubwch ein hysgolion bach

P-04-323 Achubwch ein hysgolion bach

Geiriad y ddeiseb:

Rydym ni, y rhai sydd wedi llofnodi isod, yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru gefnogi ysgolion bach ac yn benodol i gefnogi cynghorau er mwyn iddynt gadw ysgolion bach ar agor. Rydym yn credu bod ysgolion bach yn galon cymunedau gwledig, yn hanfodol i helpu’r iaith Gymraeg i oroesi, ac, uwchlaw bob dim, yn ganolfannau o ragoriaeth academaidd i’n plant. Rydym yn gofyn bod y  Cynulliad yn ailystyried sut mae’n defnyddio meini  prawf y Comisiwn Archwilio i ddynodi ysgolion fel rhai bach, a’r ffordd y mae’n dewis ariannu adeiladau newydd yn hytrach nag ailnewyddu hen adeiladau.

 

Prif ddeisebydd:
Leila Kiersch

 

Nifer y deisebwyr:

244

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;