P-03-307 Dylunio er mwyn arloesi yng Nghymru

P-03-307 Dylunio er mwyn arloesi yng Nghymru

Geiriad y ddeiseb:

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cynulliad Cymru i ystyried y rôl bwysig y gallai dylunio ei chwarae yng nghyd-destun arloesi, darparu gwasanaethau cymdeithasol a gweithredu polisïau a rhaglenni menter gymdeithasol. Mae’r alwad hon yn dod yn sgil ymrwymiad cynyddol gwledydd eraill ar draws y byd i’r agenda dylunio, ac yn baratoad ar gyfer polisi arloesi newydd y disgwylir i’r Comisiwn Ewropeaidd ei gyhoeddi. Mae’r polisi newydd hwn yn debygol o gynnwys diffiniad ehangach o arloesi, sef diffiniad sy’n ymdrin â’r gwasanaethau a ddarperir yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r sector mentrau cymdeithasol, ar delerau cydradd â’r gweithgareddau traddodiadol a welir yn y maes ymchwil a datblygu.

 

Mae dylunio eisoes yn digwydd yng Nghymru, ac mae’r sector yn gyfrifol am gyfran mwy o ddiwydiannau creadigol Cymru (22%) nag unrhyw sector arall. Mae’r diwydiannau creadigol a diwylliannol yn cyfrannu £465 miliwn at economi Cymru, ac mae 36% o’r cyfanswm hwn yn deillio o’r sector ddylunio. Serch hynny, nid yw hyn yn ddigonol. Er bod y ffigyrau hyn yn galonogol, ychydig iawn y mae busnesau yng Nghymru yn manteisio ar botensial dylunio; dim ond 17% o fusnesau sy’n gwneud defnydd o ddylunio nwyddau a dylunio diwydiannol. Yn y sector cyhoeddus, mae dylunio yn cael ei ddefnyddio’n bennaf ar gyfer cyfathrebu, ac mae’r potensial sydd ganddo i ddatblygu systemau, gwasanaethau, nwyddau a phrosesau effeithiol yn cael ei anwybyddu. Mae nifer o wledydd ar draws y byd wedi croesawu’r defnydd o ddylunio ar lefel polisi. Os yw Cymru am greu economi gystadleuol, creu nwyddau a gwasanaethau sy’n bodloni’r unigolyn a chroesawu arloesi yn y gymdeithas, mae’n rhaid i’r Cynulliad Cenedlaethol a Llywodraeth Cynulliad Cymru weithredu nawr er mwyn defnyddio pwer dylunio yng nghyd-destun arloesi.

 

Prif ddeisebydd:

Gavin Cawood

 

Nifer y deisebwyr:

369

 

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Dogfennau