P-03-293 Adolygu Cod Derbyn i Ysgolion

P-03-293 Adolygu Cod Derbyn i Ysgolion

Geiriad y ddeiseb:

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i adolygu Cod Derbyn Ysgolion yn arbennig gan fod y Cod presennol yn gwahaniaethu yn erbyn plant sydd â'r gallu i siarad Cymraeg (Paragraff 2.26) a phlant sydd â ffydd neu grefydd (Paragraff 2.39). Hefyd mae angen diwygio'r polisi i adael i blant oedd mewn meithrin mewn ysgol Gymraeg gael blaenoriaeth ar gyfer y dosbarth derbyn.

 

Prif ddeisebydd:

Cynghorydd Arfon Jones

 

Nifer y deisebwyr:

32

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Dogfennau