P-03-200 Camlas Morgannwg

P-03-200 Camlas Morgannwg

Geiriad y ddeiseb:
Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i gefnogi’r awydd i greu llwybr hanesyddol Camlas Morgannwg o Ferthyr i Fae Caerdydd gan nodi lleoliadau o bwys ar y ffordd, ynghyd â safleoedd hanesyddol eraill o fewn cyrraedd i’r Gamlas e.e. Llong Ysbyty Hamadryad, fel modd o annog diddordeb yn hanes y rhanbarth a thwristiaeth a darparu llwybr cerdded a beicio diddorol a heriol.

Prif ddeisebydd:
John Williams

Nifer y ddeisebwyr:
14

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Math: Er gwybodaeth

Dogfennau