P-03-283 Codi tâl gan y GIG i drin cleifion a’u cludo i’r ysbyty mewn achosion sy’n ymwneud ag alcohol

P-03-283 Codi tâl gan y GIG i drin cleifion a’u cludo i’r ysbyty mewn achosion sy’n ymwneud ag alcohol

Geiriad y ddeiseb:

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i ystyried codi tâl am drin cleifion a’u cludo i’r ysbyty os yw’r achosion hynny yn ymwneud ag alcohol, ac os mai bai’r unigolyn neu’r unigolion dan sylw yn llwyr yw’r digwyddiad. Gobeithiwn y bydd y costau hyn yn help i leihau nifer y galwadau a thriniaethau y bydd gofyn i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol eu gwneud, ac o ganlyniad yn lleihau’r achosion o drais corfforol a geiriol yn erbyn staff y GIG

 

Prif ddeisebydd:

Derek Wynne Rees

 

Nifer y deisebwyr:

116

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Dogfennau