Penderfyniadau

Dadl ar Gomisiwn Bevan

Mae'r dudalen hon yn dangos y penderfyniadau a wnaed gan unrhyw bwyllgorau sy'n trafod y mater hwn. Gallai'r penderfyniadau hyn gynnwys cytuno ar y Cylch Gorchwyl ar gyfer ymchwiliad neu benderfyniad i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater dan sylw.

15/06/2011 - Debate on the Bevan Commission

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliant o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Nick Ramsay (Sir Fynwy)

Ym mhwynt 1, dileuYn croesawu” a rhoiYn nodiyn ei le.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

25

0

29

54

Gwrthodwyd gwelliant 1.

 

Gwelliant 2 - Nick Ramsay (Sir Fynwy)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn siomedig â chynigion Llywodraeth Cymru i leihau cyllidebau’r GIG dros y 3 blynedd nesaf.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

12

0

42

54

Gwrthodwyd gwelliant 2.

 

Gwelliant 3 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig

Yn galw ar y Llywodraeth i gyhoeddi cynllun manwl, gyda thargedau y gellir eu mesur, i wneud yn siŵr y gall y gwasanaeth iechyd ymateb i’r heriau a nodir yn yr adroddiad.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

44

0

10

54

Derbyniwyd gwelliant 3.

Gwelliant 4 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi ymateb manwl a chynhwysfawr i’r adroddiad mewn modd sy’n dangos ei hymrwymiad i GIG cynaliadwy, gan gynnwys:

a) gwella canlyniadau cleifion;

b) atal gwasanaethau rhag cael eu cwtogi;

c) mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd;

d) sicrhau'r manteision iechyd mwyaf posibl yng nghyswllt meysydd polisi eraill; ac

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i atal gwasanaethau’r GIG rhag cael eu canoli, a chadarnhau ei hymrwymiad i gynnal Ysbytai Cyffredinol Dosbarth sy’n hanfodol er mwyn darparu gwasanaethau iechyd lleol.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

54

0

0

54

Derbyniwyd gwelliant 4.


Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

NNDM4730 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. yn croesawu adroddiad Comisiwn Bevan "2008 – 2011 NHS Wales: Forging a better future" a

2. yn nodi'r dadleuon sydd ynddo o blaid:

a) cydnabod yr heriau anodd sy'n wynebu'r GIG yn y dyfodol;

b) cefnogi newidiadau i wasanaethau sy'n hanfodol er mwyn diogelu dyfodol y GIG;

c) cefnogi camau gweithredu yn y maes clinigol i wella diogelwch ac ansawdd y gofal a roddir i gleifion; a

d) creu gwir bartneriaeth gyda'r cyhoedd er mwyn sicrhau bod yr ethos a oedd yn sail i sefydlu'r GIG yng Nghymru yn cael ei gynnal yn y dyfodol.

3. Yn galw ar y Llywodraeth i gyhoeddi cynllun manwl, gyda thargedau y gellir eu mesur, i wneud yn siŵr y gall y gwasanaeth iechyd ymateb i’r heriau a nodir yn yr adroddiad.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi ymateb manwl a chynhwysfawr i’r adroddiad mewn modd sy’n dangos ei hymrwymiad i GIG cynaliadwy, gan gynnwys:

a) gwella canlyniadau cleifion;

b) atal gwasanaethau rhag cael eu cwtogi;

c) mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd;

d) sicrhau'r manteision iechyd mwyaf posibl yng nghyswllt meysydd polisi eraill; ac

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i atal gwasanaethau’r GIG rhag cael eu canoli, a chadarnhau ei hymrwymiad i gynnal Ysbytai Cyffredinol Dosbarth sy’n hanfodol er mwyn darparu gwasanaethau iechyd lleol.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

42

12

0

54


Derbyniwyd y cynnig.