Penderfyniadau

Comisiynydd y Gymraeg: Adroddiad Blynyddol

Mae'r dudalen hon yn dangos y penderfyniadau a wnaed gan unrhyw bwyllgorau sy'n trafod y mater hwn. Gallai'r penderfyniadau hyn gynnwys cytuno ar y Cylch Gorchwyl ar gyfer ymchwiliad neu benderfyniad i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater dan sylw.

21/10/2015 - Debate on the Welsh Government's response to the Welsh Language Commissioner's Annual Report

Dechreuodd yr eitem am 15.54

Gohiriwyd y bleidlais ar y Cynnig a’r Gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

NDM5845 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn cydnabod Adroddiad Blynyddol Comisiynydd y Gymraeg ar gyfer 2014-15, a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 28 Medi 2015, sy'n manylu ar y gwaith y mae'r Comisiynydd wedi'i wneud er mwyn hybu a hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg.

Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 – Elin Jones (Ceredigion)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru a Chomisiynydd y Gymraeg i gydweithio er mwyn cyhoeddi amserlen ar gyfer cyflawni'r ymrwymiadau yn ei strategaeth iaith, 'Iaith fyw: iaith byw', erbyn diwedd y Cynulliad hwn.

Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

26

0

27

53

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lwydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.

Gwelliant 2 - Elin Jones (Ceredigion)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo yn ei strategaeth iaith 'Iaith fyw: iaith byw' i wneud 'safonau a fydd yn galluogi'r Comisiynydd i osod dyletswyddau ar gwmnïau'r sector preifat sy'n rhan o gwmpas Mesur y Gymraeg, gan gynnwys cwmnïau telathrebu, gweithredwyr bysiau a threnau, a chwmnïau cyfleustodau'.

Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

52

0

0

52

Derbyniwyd Gwelliant 2.

Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5845 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod Adroddiad Blynyddol Comisiynydd y Gymraeg ar gyfer 2014-15, a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 28 Medi 2015, sy'n manylu ar y gwaith y mae'r Comisiynydd wedi'i wneud er mwyn hybu a hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg.

2. Yn nodi bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo yn ei strategaeth iaith 'Iaith fyw: iaith byw' i wneud 'safonau a fydd yn galluogi'r Comisiynydd i osod dyletswyddau ar gwmnïau'r sector preifat sy'n rhan o gwmpas Mesur y Gymraeg, gan gynnwys cwmnïau telathrebu, gweithredwyr bysiau a threnau, a chwmnïau cyfleustodau'.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

52

0

0

52

Derbyniwyd y Cynnig wedi’i ddiwygio.