Penderfyniadau
Deddf Cyllid y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2014
Mae'r dudalen hon yn dangos y penderfyniadau a wnaed gan unrhyw bwyllgorau sy'n trafod y mater hwn. Gallai'r penderfyniadau hyn gynnwys cytuno ar y Cylch Gorchwyl ar gyfer ymchwiliad neu benderfyniad i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater dan sylw.
04/12/2013 - Stage 4 Standing Order 26.47 motion to approve the NHS Finance (Wales) Bill
Dechreuodd yr eitem am 18.13
Ar ddiwedd Cyfnod 3, caiff y
Gweinidog gynnig bod y Bil yn cael ei basio yn unol â Rheol Sefydlog 26.47:
Cynnig Cyfnod
4 o dan Reol Sefydlog 26.47 i gymeradwyo’r Bil Cyllid y GIG (Cymru)
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol
Sefydlog 12.36.
04/12/2013 - Stage 3 Standing Order 26.44 debate on the NHS Finance (Wales) Bill
Dechreuodd yr eitem am 17.29
Yn unol â Rheol Sefydlog 26.36, mae’r
gwelliannau i gael eu gwaredu yn y drefn y mae’r adrannau a’r atodlenni y maent
yn cyfeirio atynt yn codi yn y Bil.
Mae’r gwelliannau wedi cael eu grwpio at ddibenion y ddadl a byddant
yn cael eu trafod fel a ganlyn:
1. Trosolwg
1
2. Dyletswyddau ariannol Bryddau Iechyd
Lleol
2
3. Dyletswyddau Cyllunio Byrddau Iechyd
Lleol a Gweinidogion Cymru
3
4. Cyflwyno Adroddiadau
4, 4A, 5, 7, 8
Bydd y gwelliannau hyn cael eu gwaredu yn y drefn - 4A, 4, 5, 7
5. Pŵer i fenthyca
6
Cynhaliwyd
y bleidlais yn y drefn a nodir yn y Rhestr o Welliannau wedi’u Didoli.
Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd gwelliant 2 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd gwelliant 3 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant
4A:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
18 |
0 |
38 |
56 |
Gwrthodwyd gwelliant 4A.
Derbyniwyd gwelliant 4 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant
5:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
28 |
0 |
29 |
57 |
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd
y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant.
Felly, gwrthodwyd y gwelliant.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant
6:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
18 |
9 |
28 |
55 |
Gwrthodwyd gwelliant 6.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant
7:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
27 |
0 |
28 |
55 |
Gwrthodwyd gwelliant 7.
Gan fod gwelliant 7 wedi’i wrthod,
methodd gwelliant 8.
Barnwyd bod holl adrannau ac atodlenni’r Bil wedi’u derbyn,
gan ddod â thrafodion Cyfnod 3 i ben.
08/11/2013 - National Health Service Finance (Wales) Bill: Stage 2 - Consideration of Amendments
2.1 Yn unol â Rheol Sefydlog
26.21, aeth y Pwyllgor ati i drafod a gwaredu’r gwelliannau i’r Bil yn y drefn
a ganlyn:
Adrannau 1 – 3
Adran 1:
Ni chafodd gwelliannau eu
cyflwyno i’r adran hon, felly bernir ei bod wedi’i derbyn.
Adran 2:
Tynnwyd gwelliant
8 (Mark Drakeford) yn ôl.
Gwelliant 3 (Paul
Davies)
O blaid |
Yn erbyn |
Ymatal |
|
|
|
Simon Thomas Peter Black Paul Davies Jocelyn Davies |
Christine
Chapman Julie Morgan Mike Hedges Ann Jones |
|
4 |
4 |
0 |
Gan fod y bleidlais yn gyfartal,
defnyddiodd y Cadeirydd ei phleidlais fwrw yn negyddol (yn unol â Rheol
Sefydlog 6.20 (ii)), ac ni dderbyniwyd gwelliant 3. |
Tynnwyd gwelliant
1 (Simon Thomas) yn ôl.
Gwelliant 2 (Simon Thomas)
O blaid |
Yn erbyn |
Ymatal |
|
|
|
Simon Thomas Peter Black Paul Davies Jocelyn Davies |
Christine
Chapman Julie Morgan Mike Hedges Ann Jones |
|
4 |
4 |
0 |
Gan fod y bleidlais yn gyfartal,
defnyddiodd y Cadeirydd ei phleidlais fwrw yn negyddol (yn unol â Rheol
Sefydlog 6.20 (ii)), ac ni dderbyniwyd gwelliant 2. |
Tynnwyd gwelliant
10 (Simon Thomas) yn ôl.
Derbyniwyd
gwelliant 9 (Mark Drakeford) yn unol â Rheol Sefydlog 17.34(i).
Adran 3:
Ni chafodd gwelliannau eu
cyflwyno i’r adran hon, felly bernir ei bod wedi’i derbyn.
Adrannau newydd:
Gwelliant 4 (Paul Davies)
O blaid |
Yn erbyn |
Ymatal |
|
|
|
Simon Thomas Peter Black Paul Davies Jocelyn Davies |
Christine
Chapman Julie Morgan Mike Hedges Ann Jones |
|
4 |
4 |
0 |
Gan fod y bleidlais yn gyfartal,
defnyddiodd y Cadeirydd ei phleidlais fwrw yn negyddol (yn unol â Rheol
Sefydlog 6.20 (ii)), ac ni dderbyniwyd gwelliant 4. |
Tynnwyd gwelliant
5 (Paul Davies) yn ôl.
Tynnwyd gwelliant
6 (Paul Davies) yn ôl.
Methodd gwelliant 7 (Paul Davies).
2.2 Cyhoeddodd y Cadeirydd fod
y Pwyllgor wedi derbyn pob adran o’r Bil, a chan y gwaredwyd pob gwelliant,
bydd Cyfnod 3 yn dechrau ar 8 Tachwedd 2013.
09/10/2013 - Motion to approve the Financial Resolution in respect of the National Health Service Finance (Wales) Bill
Dechreuodd yr eitem am 18.36
NDM5319 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion
unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o Fil Cyllid y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru),
yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeirwyd ato yn Rheol
Sefydlog 26.69, sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.
Derbyniwyd y cynnig yn unol
â Rheol Sefydlog 12.36.
09/10/2013 - Debate on the General Principles of the National Health Service Finance (Wales) Bill
Dechreuodd yr eitem am 17.53
NDM5318 Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol
Sefydlog 26.11:
Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol Bil Cyllid y
Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru).
Derbyniwyd y cynnig yn unol
â Rheol Sefydlog 12.36.