Penderfyniadau
Dyfodol Masnachfraint Rheilffyrdd Cymru a'r Gororau
Mae'r dudalen hon yn dangos y penderfyniadau a wnaed gan unrhyw bwyllgorau sy'n trafod y mater hwn. Gallai'r penderfyniadau hyn gynnwys cytuno ar y Cylch Gorchwyl ar gyfer ymchwiliad neu benderfyniad i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater dan sylw.
06/02/2015 - Wales and Borders Rail Franchise Follow-up Scrutiny
4.1 Craffodd y Pwyllgor ar waith Gweinidog yr Economi,
Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth.
4.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu’r hyn a ganlyn:
·
Gwybodaeth am gyflenwi tocynnau clyfar / integredig yng
Nghymru;
·
Gwybodaeth ynghylch y camau sydd wedi’u cynllunio i
sicrhau bod rheilffyrdd Cymru yn hygyrch i bobl â phroblemau symudedd – y fanyleb
dechnegol o ran gallu i ryngweithredu (PRM-TSI), a chydymffurfedd â Deddf
Cydraddoldeb 2010;
·
Gwybodaeth am gynigion o ran cerbydau erbyn haf 2015, a
chynigion manwl erbyn Nadolig 2015.
4.3 Cytunodd y Pwyllgor i barhau i adolygu’r mater.
19/02/2014 - Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes ar Ddyfodol Masnachfraint Rheilffyrdd Cymru a'r Gororau
Dechreuodd yr
eitem am 15.02
NDM5437 Nick Ramsay (Mynwy)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes ar
yr Ymchwiliad i Ddyfodol Masnachfraint Rheilffyrdd Cymru a’r Gororau, a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 11 Rhagfyr 2013.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.