Penderfyniadau
Cydsyniad Deddfwriaethol: y Bil Archwilio ac Atebolrwydd Lleol
Mae'r dudalen hon yn dangos y penderfyniadau a wnaed gan unrhyw bwyllgorau sy'n trafod y mater hwn. Gallai'r penderfyniadau hyn gynnwys cytuno ar y Cylch Gorchwyl ar gyfer ymchwiliad neu benderfyniad i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater dan sylw.
13/11/2013 - Legislative Consent Memorandum on the Local Audit and Accountability Bill
Dechreuodd yr eitem am 17.23
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan
yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
NDM5259
Alun Davies (Blaenau Gwent)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog
29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Archwilio ac Atebolrwydd Lleol sy’n ymwneud â’r
trefniadau archwilio ar gyfer y Byrddau
Draenio Mewnol y mae eu hardaloedd yn
rhannol oddi fewn i Gymru, i’r
graddau y maent yn dod o fewn
cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
28 |
0 |
29 |
57 |
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog
6.20, defnyddiodd y Dirprwy
Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y cynnig
wedi’i ddiwygio. Felly,
gwrthodwyd y cynnig.