Penderfyniadau

Deddf Addysg Bellach ac Uwch (Llywodraethu a Gwybodaeth) (Cymru) 2014

Mae'r dudalen hon yn dangos y penderfyniadau a wnaed gan unrhyw bwyllgorau sy'n trafod y mater hwn. Gallai'r penderfyniadau hyn gynnwys cytuno ar y Cylch Gorchwyl ar gyfer ymchwiliad neu benderfyniad i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater dan sylw.

04/12/2013 - Stage 4 Standing Order 26.47 motion to approve the Further and Higher Education (Governance and Information) (Wales) Bill

Dechreuodd yr eitem am 17.28

 

Ar ddiwedd Cyfnod 3, caiff y Gweinidog gynnig bod y Bil yn cael ei basio yn unol â Rheol Sefydlog 26.47:

 

Cynnig Cyfnod 4 o dan Reol Sefydlog 26.47 i gymeradwyo y Bil Addysg Bellach ac Uwch (Llywodraethu a Gwybodaeth) (Cymru)

 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.


04/12/2013 - Stage 3 Standing Order 26.44 debate on the Further and Higher Education (Governance and Information) (Wales) Bill

Dechreuodd yr eitem am 16.41

 

Yn unol â Rheol Sefydlog 26.36, mae’r gwelliannau i gael eu gwaredu yn y drefn y mae’r adrannau a’r atodlenni y maent yn cyfeirio atynt yn codi yn y Bil.

 

Mae’r gwelliannau wedi cael eu grwpio at ddibenion y ddadl a byddant yn cael eu trafod fel a ganlyn:

 

1. Adolygu gweithrediad y Ddeddf

4, 1

 

2. Trefniadau trosiannol

6, 7

 

3. Cynrychiolaeth ar gyrff llywodraethu

5, 5A, 3

Gwelliant 5 yw’r prif welliant yn y grŵp

Bydd y gwelliannau hyn yn cael eu gwaredu yn y drefn: 5A, 5, 3

 

4. Ymgynghoriad gan y corff

8

 

5. Colli swyddi

2

 

Cynhaliwyd y bleidlais yn y drefn a nodir yn y Rhestr o Welliannau wedi’u Didoli.

 

Derbyniwyd gwelliant 4 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

10

0

44

54

Gwrthodwyd gwelliant 1.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

28

0

29

57

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

28

0

29

57

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5A:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

27

1

28

56

Gwrthodwyd gwelliant 5A.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

27

15

13

55

Derbyniwyd gwelliant 5.

Gan fod gwelliant 5 wedi’i wrthod, methodd gwelliant 3.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 8:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

28

0

29

57

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.

Tynnwyd gwelliant 2 yn ôl.

Barnwyd bod holl adrannau ac atodlenni’r Bil wedi’u derbyn, gan ddod â thrafodion Cyfnod 3 i ben.


25/09/2013 - Financial Resolution in respect of the Further and Higher Education (Governance and Information) (Wales) Bill

Dechreuodd yr eitem am 18.07

NDM5301 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Bil Addysg Bellach ac Uwch (Llywodraethu a Gwybodaeth) (Cymru) yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeirwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69 sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 


25/09/2013 - Debate on the general principles of the Further and Higher Education (Governance and Information) (Wales) Bill

Dechreuodd yr eitem am 17.26

NDM5300 Huw Lewis (Merthyr Tudful a Rhymni)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:

Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol Bil Addysg Bellach ac Uwch (Llywodraethu a Gwybodaeth) (Cymru).

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 


11/10/2012 - Sesiwn friffio ar y Papur Gwyn ar Fil Addysg Bellach ac Uwch (Cymru)