Penderfyniadau

Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Ynni

Mae'r dudalen hon yn dangos y penderfyniadau a wnaed gan unrhyw bwyllgorau sy'n trafod y mater hwn. Gallai'r penderfyniadau hyn gynnwys cytuno ar y Cylch Gorchwyl ar gyfer ymchwiliad neu benderfyniad i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater dan sylw.

20/02/2013 - Legislative Consent Motion – The Energy Bill

Dechreuodd yr eitem am 17.15

NDM5120 John Griffiths (Dwyrain Casnewydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried darpariaethau'r Bil Ynni sy’n ymwneud â sefydlu safonau perfformiad ynghylch allyriadau i osod terfynau ar faint o garbon deuocsid y gall gorsaf bŵer tanwydd ffosil newydd (h.y. un sy’n cael ei phweru gan lo, olew neu nwy “naturiol”) ei ollwng yn ystod unrhyw flwyddyn benodol, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 5 Rhagfyr 2012 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(i).

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 


22/06/2011 - Supplementary Legislative Consent Motion: Energy Bill

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.