Penderfyniadau

Ymchwiliad i addasiadau yn y cartref

Mae'r dudalen hon yn dangos y penderfyniadau a wnaed gan unrhyw bwyllgorau sy'n trafod y mater hwn. Gallai'r penderfyniadau hyn gynnwys cytuno ar y Cylch Gorchwyl ar gyfer ymchwiliad neu benderfyniad i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater dan sylw.

24/10/2013 - Debate on the Communities, Equality and Local Government Committee’s Report on the Inquiry into Home Adaptations

Dechreuodd yr eitem am 15.39

NDM5339 Christine Chapman (Cwm Cynon)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol am ei Ymchwiliad i Addasiadau yn y Cartref a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Gorffennaf 2013.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.


23/04/2013 - Inquiry into Home Adaptations - Evidence session 14

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Tai ac Adfywio. Cytunodd y Gweinidog i ddarparu nodyn ar y materion a ganlyn:

 

-       Canllawiau Llywodraeth Cymru ar grantiau cyfleusterau i’r anabl;

-       Canllawiau ynglŷn â ph’un ai yw profion modd yn cael eu gweithredu’n wahanol rhwng Awdurdodau Lleol;

-       Y data a ddefnyddir wrth gyfrifo’r elfen tai yn y Cyllid Cyfalaf Cyffredinol. 


25/03/2013 - Ymchwiliad i addasiadau yn y cartref - Sesiwn dystiolaeth 13

4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Shelter Cymru.

 


06/03/2013 - Ymchwiliad i Addasiadau yn y Cartref - Sesiwn dystiolaeth 2

3.1 Cytunodd y tystion i ddarparu nodyn i’r Pwyllgor ar y broses o fonitro’r Dangosydd Perfformiad ledled Cymru a sut y gellid gwella’r broses hon.