Penderfyniadau

Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013

Mae'r dudalen hon yn dangos y penderfyniadau a wnaed gan unrhyw bwyllgorau sy'n trafod y mater hwn. Gallai'r penderfyniadau hyn gynnwys cytuno ar y Cylch Gorchwyl ar gyfer ymchwiliad neu benderfyniad i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater dan sylw.

15/07/2016 - Consideration of Section 7, Public Audit (Wales) Act 2013

4.1 Trafododd y Pwyllgor y sefyllfa o ran talu cydnabyddiaeth i Archwilydd Cyffredinol Cymru a nodwyd bod y Prif Weithredwr a'r Clerc wedi ymgynghori â'r Prif Weinidog. Penderfynodd y Pwyllgor y dylai trefniadau talu cydnabyddiaeth Archwilydd Cyffredinol Cymru aros fel y'u nodir yn ei amodau a thelerau cyfredol.


02/07/2015 - Public Audit (Wales) Act 2013: Correspondence from Chair of Wales Audit Office

6.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod yr ohebiaeth, a chytunodd i ysgrifennu at Gadeirydd Swyddfa Archwilio Cymru.

 


06/03/2013 - Stage 4 Standing Order 26.47 motion to approve the Public Audit (Wales) Bill

Dechreuodd yr eitem am 17.50

Ar ddiwedd Cyfnod 3, caiff y Gweinidog gynnig bod y Bil yn cael ei basio yn unol â Rheol Sefydlog 26.47. Os cytunir ar y cynnig:

Cynnig Cyfnod 4 o dan Reol Sefydlog 26.47 i gymeradwyo’r Bil Archwilio Cyhoeddus (Cymru).

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.


06/03/2013 - Stage 3 Standing Order 26.44 debate on the Public Audit (Wales) Bill

Dechreuodd yr eitem am 17.20

Yn unol â Rheol Sefydlog 26.36, mae’r gwelliannau i gael eu gwaredu yn y drefn y mae’r adrannau a’r atodlenni y maent yn cyfeirio atynt yn codi yn y Bil.

Mae’r gwelliannau wedi cael eu grwpio at ddibenion y ddadl ac fe’u trafodir yn ôl y grwpiau a ganlyn:

1. Technegol a chanlyniadol

28, 29, 14, 26, 15A, 15, 16, 17, 18, 19, 20, 21, 22, 23, 24

2. Cynllun dirprwyo

2, 3

 

3. Aelodau sy’n gyflogeion SAC

4, 5, 6, 7, 25

 

4. Cynllun blynyddol

8, 9, 11

 

5. Paratoi adroddiadau interim

10, 12, 13

 

6. Trosglwyddo staff i SAC

1*, 1A*, 27

* Caiff y gwelliannau hyn eu gwaredu yn y drefn a ganlyn—1A, 1

Cynhaliwydy pleidleisiau yn y drefn a nodir yn y Rhestr o Welliannau wedi’u Didoli:

Derbyniwyd gwelliant 28 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd gwelliant 29 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd gwelliant 2 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd gwelliant 3 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd gwelliant 4 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd gwelliant 5 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd gwelliant 6 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd gwelliant 7 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Ni chynigwyd gwelliant 25.

Derbyniwyd gwelliant 8 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd gwelliant 9 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd gwelliant 10 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd gwelliant 11 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd gwelliant 12 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd gwelliant 13 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd gwelliant 14 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd gwelliant 1A yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd gwelliant 27 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Ni chynigwyd gwelliant 26.

Ni chynigwyd gwelliant 15A.

Derbyniwyd gwelliant 15 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd gwelliant 16 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd gwelliant 17 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd gwelliant 18 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd gwelliant 19 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd gwelliant 20 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd gwelliant 21 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd gwelliant 22 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd gwelliant 23 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd gwelliant 24 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Barnwyd bod holl adrannau ac atodlenni’r Bil wedi’u derbyn, gan ddod â thrafodion Cyfnod 3 i ben.


05/12/2012 - Cynnig i gymeradwyo'r Penderfyniad Ariannol ynghylch y Bil Archwilio Cyhoeddus (Cymru)

Dechreuodd yr eitem am 16.22

NDM5112 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Bil Archwilio Cyhoeddus (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeirwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69(ii), sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 


05/12/2012 - Debate on the General Principles of the Public Audit (Wales) Bill

Dechreuodd yr eitem am 15.35

NDM5111 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:

Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol y Bil Archwilio Cyhoeddus (Cymru).

Gosodwyd y Bil Archwilio Cyhoeddus (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Cynulliad ar 9 Gorffennaf 2012.

Gosodwyd adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar y Bil Archwilio Cyhoeddus (Cymru) gerbron y Cynulliad ar 23 Tachwedd 2012.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.