Penderfyniadau

Cyflwyniad, Ymddiheuriadau a Dirprwyon - Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol

Mae'r dudalen hon yn dangos y penderfyniadau a wnaed gan unrhyw bwyllgorau sy'n trafod y mater hwn. Gallai'r penderfyniadau hyn gynnwys cytuno ar y Cylch Gorchwyl ar gyfer ymchwiliad neu benderfyniad i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater dan sylw.

20/03/2012 - Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

1.1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau, y tystion ac aelodau’r cyhoedd i’r cyfarfod.

 

1.1.2 Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Rhodri Glyn Thomas a Peter Black ar gyfer eitemau 2 a 3, o gofio eu swyddogaethau ar Gomisiwn y Cynulliad.

 

1.1.3 Croesawodd y Cadeirydd Alun Ffred Jones ac Eluned Parrott i’r cyfarfod, a oedd yn dirprwyo ar eu rhan, yn y drefn honno, yn unol â Rheol Sefydlog 17.48.

 

1.1.4 Croesawodd y Cadeirydd Peter Black a Rhodri Glyn Thomas i’r cyfarfod ar gyfer eitem 4, sef Ystyried Adroddiad y Pwyllgor ar yr Ymchwiliad i Ddarparu Tai Fforddiadwy.