Penderfyniadau
Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Cyllid Llywodraeth Leol
Mae'r dudalen hon yn dangos y penderfyniadau a wnaed gan unrhyw bwyllgorau sy'n trafod y mater hwn. Gallai'r penderfyniadau hyn gynnwys cytuno ar y Cylch Gorchwyl ar gyfer ymchwiliad neu benderfyniad i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater dan sylw.
27/06/2012 - Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Cyllid Llywodraeth Leol
Dechreuodd yr eitem am 16:14.
NDM5002 Carl Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai darpariaethau’r Bil Cyllid Llywodraeth Leol i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cael eu hystyried gan Senedd y DU.
Mae Memorandwm Cydsyniad
Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa
Gyflwyno ar 28 Mai 2012 yn unol â Rheol
Sefydlog 29.2(iii)
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Canlyniad y bleidlais:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
27 |
11 |
14 |
52 |
Derbyniwyd y
cynnig.