Penderfyniadau

Adroddiad Blynyddol Estyn

Mae'r dudalen hon yn dangos y penderfyniadau a wnaed gan unrhyw bwyllgorau sy'n trafod y mater hwn. Gallai'r penderfyniadau hyn gynnwys cytuno ar y Cylch Gorchwyl ar gyfer ymchwiliad neu benderfyniad i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater dan sylw.

24/02/2016 - Debate on the Estyn Annual Report

Dechreuodd yr eitem am 15.18

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

NDM5972 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad blynyddol Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru ar gyfer 2014-15.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Elin Jones (Ceredigion)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi bod adroddiad Estyn yn nodi "mewn ysgolion sydd ag arweinwyr llwyddiannus, ceir diwylliant cadarn o ddysgu proffesiynol a ffocws ar wella ansawdd addysgu a dysgu" ac yn credu y byddai talu premiwm addysgu i staff addysg tra chymwysedig sy'n cynnal eu datblygiad proffesiynol yn cyfrannu'n sylweddol at godi safonau addysgu.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

7

12

31

50

Gwrthodwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi bod adroddiad Estyn eleni yn dangos bod angen gwneud mwy i leihau'r bwlch cyrhaeddiad rhwng disgyblion ysgolion uwchradd sy'n cael prydau ysgol am ddim a'u cyfoedion.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

50

0

0

50

Derbyniwyd gwelliant 2.

Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu ar adeg pan fo nifer y disgyblion mewn ysgolion cynradd yn cynyddu, pan fo ysgolion yn cau, a phan fo prinder athrawon, fod dosbarthiadau llai ar gyfer babanod yn bwysicach nag erioed i roi amser i athrawon addysgu ein plant yn iawn.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

6

18

26

50

Gwrthodwyd gwelliant 3.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5972 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi adroddiad blynyddol Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru ar gyfer 2014-15.

2. Yn nodi bod adroddiad Estyn eleni yn dangos bod angen gwneud mwy i leihau'r bwlch cyrhaeddiad rhwng disgyblion ysgolion uwchradd sy'n cael prydau ysgol am ddim a'u cyfoedion.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

49

0

0

49

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.


25/02/2015 - Debate on The Estyn Annual Report 2013-14

Dechreuodd yr eitem am 16.31

NDM5698 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad blynyddol Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru ar gyfer 2013-14.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cymeradwyo agweddau cryfach ar addysg yng Nghymru, ond yn gresynu at y ffaith bod safonau cyffredinol yn dal i fod yn wan ac:

a) bod angen i ysgolion sydd ag arweinyddiaeth gref i rannu arferion gorau gydag ysgolion gwannach i roi hwb i safonau; a

b) bod angen i Lywodraeth Cymru wella mynediad at ddatblygiad proffesiynol parhaus a'r ddarpariaeth ohono ar gyfer athrawon newydd a phrofiadol.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gwelliant 2 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu at gyflwr unedau cyfeirio disgyblion yng Nghymru y mae angen gwella pob un ond dau ohonynt.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gwelliant 3 – Elin Jones (Ceredigion)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu at ganfyddiad Estyn bod safonau mewn ysgolion cynradd wedi gostwng eleni, gyda chyfran yr ysgolion cynradd sydd â safonau da neu ragorol yn disgyn o saith ym mhob 10 i ychydig dros chwech ym mhob 10.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gwelliant 4 – Elin Jones (Ceredigion)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu at ganfyddiad Estyn bod disgyblion yn cael anhawster o ran defnyddio sgiliau rhifedd yn briodol ar draws y cwricwlwm mewn tua hanner ein hysgolion.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gwelliant 5 – Elin Jones (Ceredigion)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu bod angen i Lywodraeth Cymru feithrin gallu'r gweithlu addysg i roi polisïau allweddol ar waith mewn modd effeithiol, fel y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd, y Cyfnod Sylfaen a'r Cwricwlwm Cenedlaethol newydd.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gwelliant 6 – Elin Jones (Ceredigion)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu y dylai athrawon ym mhob rhan o Gymru gael mynediad i arfer gorau.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

NDM5698 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi adroddiad blynyddol Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru ar gyfer 2013-14.

2. Yn cymeradwyo agweddau cryfach ar addysg yng Nghymru, ond yn gresynu at y ffaith bod safonau cyffredinol yn dal i fod yn wan ac:

a) bod angen i ysgolion sydd ag arweinyddiaeth gref i rannu arferion gorau gydag ysgolion gwannach i roi hwb i safonau; a

b) bod angen i Lywodraeth Cymru wella mynediad at ddatblygiad proffesiynol parhaus a'r ddarpariaeth ohono ar gyfer athrawon newydd a phrofiadol.

3. Yn gresynu at gyflwr unedau cyfeirio disgyblion yng Nghymru y mae angen gwella pob un ond dau ohonynt.

4. Yn gresynu at ganfyddiad Estyn bod safonau mewn ysgolion cynradd wedi gostwng eleni, gyda chyfran yr ysgolion cynradd sydd â safonau da neu ragorol yn disgyn o saith ym mhob 10 i ychydig dros chwech ym mhob 10.

5. Yn gresynu at ganfyddiad Estyn bod disgyblion yn cael anhawster o ran defnyddio sgiliau rhifedd yn briodol ar draws y cwricwlwm mewn tua hanner ein hysgolion..

6. Yn credu bod angen i Lywodraeth Cymru feithrin gallu'r gweithlu addysg i roi polisïau allweddol ar waith mewn modd effeithiol, fel y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd, y Cyfnod Sylfaen a'r Cwricwlwm Cenedlaethol newydd.

7. Yn credu y dylai athrawon ym mhob rhan o Gymru gael mynediad i arfer gorau.

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.